Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dylunio a phaentio murlun i ddechreuwyr (dwyieithog) [Dydd Iau 3:30pm - 5:30pm] EN042501FR

Dydd Iau 1 Mai 2025
Amser dechrau 15:30
17:30
Pris Am ddim
The ARC / Communities for Work

Gyda Ffion Roberts. Mae'r cwrs cyflwyniadol hwn yn gwahodd oedolion i archwilio byd cyffrous celf murluniau. Gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau fel pinnau paent, pastelau olew a phapur lliw, byddwch yn datblygu sgiliau a thechnegau dylunio i greu celfweithiau mawr. Darganfyddwch sut y gall gludwaith ysbrydoli dyluniadau murluniau ac archwiliwch gysyniadau dylunio trawiadol a syml. Dysgwch am gyfuniadau lliw effeithiol a dulliau ymarferol i fwyhau eich dyluniadau ar gyfer arwynebau mawr, gan gynnwys technegau modern. Mae'r cwrs hefyd yn ymdrin â gwaith hanfodol paratoi arwynebau a phaentio â brwsh ar raddfa fawr. Nid oes angen profiad blaenorol.

Hyd - 10 wythnos


Bydd elfennau'r cwrs hwn yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i greu patrymau gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol
  • Technegau gludwaith sylfaenol i'w defnyddio wrth ddylunio
  • Cyflwyniad i waith artistiaid cyfoes eraill
  • Gwaith pensel
  • Theori lliwiau syml
  • Paratoi arwyneb murlun
  • Technegau mwyhau dyluniad
  • Paentio ar raddfa fawr

 Yr hyn y byddwch yn ei greu:

  • Samplau o ddyluniadau
  • Gludwaith ar y cyd
  • Murlun terfynol ar raddfa fawr

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Arddangosiadau gan diwtor
  • Cwestiwn ac ateb
  • Gwaith grŵp
  • Gwaith ymarferol


Côd y cwrs: EN042501FR

The ARC / Communities for Work

45 Broughton Avenue

Portmead

Swansea

SA5 5JS

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Iau 1 Mai

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu