Natur y ddinas - Toeon Gwyrdd The CAE
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Raglen Dalgylchoedd Cyfle Cyfoeth Naturiol Cymru a grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r broses o drawsnewid Hwb Menter Gymunedol The CAE, sef man cymunedol bywiog lle caiff pobl eu grymuso i ffynnu, mae dau do gwyrdd bioamrywiol mawr wedi cael eu gosod. Mae'r mannau gwyrdd hyn yn cynnig teras pen to hygyrch i'w fwynhau gan staff The CAE ac ymwelwyr.
Yn ogystal â chynnig hafan i bobl a bywyd gwyllt, mae Toeon Gwyrdd The CAE yn cefnogi addysg, cynaliadwyedd a meithrin sgiliau, ac mae mentrau'r dyfodol yn canolbwyntio ar dyfu bwyd mewn trefi a gyrfaoedd gwyrdd.
Mae The CAE ar agor i'r cyhoedd - dewch i weld sut mae isadeiledd gwyrdd yn llunio dyfodol Abertawe!