Llwybr natur y ddinas
Mae Llwybr Natur y Ddinas yn eich galluogi i archwilio rhai o'r ffyrdd y mae busnesau Abertawe, y Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i greu lle i natur. Gallwch ymweld â rhai o'r safleoedd, nid yw eraill ar agor i'r cyhoedd, ond mae pob un ar agor i fywyd gwyllt!
Yn 2019 dywedodd preswylwyr, ymwelwyr a gweithwyr canol dinas Abertawe wrthym yr hoffent weld mwy o natur yng nghanol y ddinas fel mannau tawel i eistedd ac ymlacio a mannau sy'n gwahodd natur i mewn iddynt.
Mae creu lle i natur yng nghanol y ddinas yn golygu y gall ein dinas wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd yn well. Mae'n gwneud canol ein dinas yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Mae llystyfiant yn amsugno dŵr sy'n helpu i leihau llifogydd, mae coed a llwyni'n creu cysgod ac yn oeri'r aer o'u cwmpas, ac mae planhigion yn amsugno llygryddion o aer a dŵr. Mae'r egni a'r adnoddau a gyflenwir gan blanhigion sy'n denu peillwyr yng nghanol y ddinas yn cynorthwyo gwenyn, ieir bach yr haf, pryfed hofran a phryfed eraill i deithio ymhellach i ffwrdd i beillio cnydau neu blanhigion gardd, ac yn helpu i hybu rhywogaethau adar ac ystlumod, sy'n bwydo ar bryfed.
Mae cynyddu mannau gwyrdd ar draws y ddinas yn bwysig i natur a phobl. Gallwn greu cynefinoedd o ansawdd uchel ar adeiladau ac yn ein strydlun.
Os hoffai eich sefydliad ychwanegu at lwybr natur y ddinas, cysylltwch â: Penny Gruffydd penny.gruffydd@abertawe.gov.uk .