Toglo gwelededd dewislen symudol

Amrywio Trwydded Mangre: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003

Amrywio Trwydded Mangre: Cwblhau'r ffurflen gais

Darllenwch y nodiadau hyn cyn i chi gwblhau'r ffurflen gais gan y byddant yn eich helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Amserlen Weithredu

Fe welwch eich amserlen weithredu ar adran P o'ch ffurflen gais.

Beth yw amserlen weithredu?

Mae amserlen weithredu yn ddogfen sy'n rhoi disgrifiad clir i'r Awdurdod Trwyddedu o fath a natur y busnes mae'r ymgeisydd yn bwriadu ei weithredu dan y drwydded mangre, gan gynnwys y camau y byddant yn eu cymryd i sicrhau bod yr amcanion trwyddedu yn cael eu hyrwyddo. Dylai gynnwys y canlynol:

  • Arddull a chymeriad y busnes: (h.y. - bwyty, Clwb Nos, Bar, Tecawê)
  • Gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol a'r amseroedd y maent yn cael eu darparu;
  • Unrhyw amseroedd eraill y bydd y cyhoedd yn cael mynediad;
  • Unrhyw gyfnod cyfyngedig y mae'r drwydded i fodoli ar ei gyfer;
  • Manylion y Goruchwyliwr Dynodedig Mangre (lle bydd alcohol yn cael ei werthu);
  • P'un a yw alcohol i'w werthu i'w yfed ar y safle, oddi ar y safle, neu'r ddau; a
  • Sut y bydd y 4 'amcan trwyddedu' yn cael eu hyrwyddo. Rhoddir eglurhad manylach o'r rhain isod.

Fe welwch fod eich amserlen weithredu'n cynnwys 5 Adran, un ar gyfer pob un o'r 4 Amcan Trwyddedu, ac adran gyffredinol. Fe'ch cynghorir i gwblhau'r pedwar amcan yn y lle cyntaf, ac yna i ddychwelyd i roi'r ffactorau pwysicaf yn eich adran gyffredinol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu