Paentio dyfrlliw i ddechreuwyr EN092560TBC
Os hoffech gael gwybod pan fydd cofrestriadau ar agor, e-bostiwch ni yn dysgu.gydoloes@abertawe.gov.uk
Hyd - 10 wythnos
Dysgwch y sgiliau sydd eu hangen i greu eich celfweithiau eich hun.
Drwy sesiynau byw mewn ystafell ddosbarth, byddwch yn dysgu sut i baentio tirwedd, morlun, adlewyrchiadau a chysgodion trwy gyfrwng gwych dyfrlliwiau. Dysgwch dechnegau, fel paentio paent gwlyb ar baent wlyb, cymysgu lliwiau, gwerth tonyddol a chyfansoddiad. Trawsnewidiwch ymddangosiad eich panetiadau dyfrlliw gan ddefnyddio acrylig cyfrwng cymysg, inc, pastel a gouache.
Yn y dosbarth, byddwch yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i greu celfweithiau hardd yn ogystal â gweld enghreifftiau o'r dulliau a'r technegau i'ch helpu i greu eich celfyddyd dyfrlliw.
Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:
- Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth.
- Enghreifftiau ac adnoddau wedi'u hargraffu.
- Aseiniadau dosbarth.
- Adborth a chefnogaeth beneodol gan diwtor.
Fformat dysgu: wyneb i wyneb.
Côd y cwrs: EN092560TBC