Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad cyhoeddus o ddynodi ardal ar gyfer trwyddedau tai amlbreswyl ychwanegol

Hysbysir trwy hyn bod Dinas a Sir Abertawe wedi cadarnhau dynodi cynllun trwyddedu ychwanegol o ran tai amlbreswyl yn Wardiau Etholiadol Y Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau.

Gelwir y cynllun hwn yn Gynllun Trwyddedu Tai Amlbreswyl Ychwanegol Abertawe 2025 ('y Cynllun'). Bydd cadarnhau'r dynodi yn unol ag Adran 56-60 Deddf Tai 2004 a Rheoliad 9 Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlbreswyl a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006.

Penderfynwyd ar y dynodi yng nghyfarfod Cyngor Dinas a Sir Abertawe ar 2 Hydref 2025. Mae Cymeradwyaeth Gyffredinol 2007 Deddf Tai 2004 (Trwyddedu Tai Amlbreswyl Ychwanegol) (Cymru), a ddaeth i rym ar 13 Mawrth 2007 yn berthnasol i'r dynodi hwn.

Bydd y cynllun yn dod i rym o 14 Chwefror 2026 ac, oni bai y'i diddymir ymlaen llaw, bydd yn dod i ben ar 14 Chwefror 2031. Mae'r Cynllun yn berthnasol i'r holl dai amlbreswyl (HMO) yn Wardiau Etholiadol Y Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau ar wahân i'r rhai a eithrir gan adrannau perthnasol Deddf Tai 2004.

Dylai unrhyw landlord, person sy'n rheoli neu denant yn wardiau Etholiadol Y Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau, gael cyngor gan Dîm HMO Cyfarwyddiaeth Lleoedd Dinas a Sir Abertawe i weld a yw eu heiddio'n cael ei effeithio gan ddynodi'r Cynllun hwn.

Rhaid i berson sy'n rheoli neu â gofal o HMO yn yr ardal ddynodedig wneud cais i Ddinas a Sir Abertawe am drwydded.

Mae methu â gwneud cais am drwydded yn drosedd o dan Is-adran 72(1) Deddf Tai 2004 a gall person dderbyn hyd at £20,000 o ddirwy. Gellir hefyd wneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl i wneud Gorchymyn Ad-dalu Rhent lle mae gofyn ad-dalu hyd at 12 mis o rent a gasglwyd yn ystod y cyfnod nad oedd gan yr eiddo drwydded.

Rhaid i'r cais i drwyddedu HMO fod mewn fformat rhagnodedig, gan gynnwys manylion penodol ac mae'n rhaid cynnwys y ffi angenrheidiol. I wneud cais am ffurflen gais, cysylltwch â'r Tîm Tai Sector Preifat, Cyfarwyddiaeth Lleoedd, Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN neu ffoniwch (01792) 635600, neu e-bostiwch HPH@swansea.gov.uk  Gellir hefyd lawrlwytho ffurflen gais yn www.abertawe.gov.uk/caisamhmo

Mae copi i'r Cynllun ar gael ar wefan Dinas a Sir Abertawe yn www.abertawe.gov.uk/hmos neu drwy gysylltu ag Cyfarwyddiaeth Lleoedd yn y manylion uchod.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Hydref 2025