COAST - One Heart Drummers - Sesiynau drymio cerddoriaeth a symudiad i'r teulu
Ar gyfer grwpiau teuluol gyda rhieni / gwarcheidwaid a'u pobl ifanc hyd at 18 oed.
Mae ein sesiynau drymio cerddoriaeth a symudiad i deuluoedd yn cynnwys gemau a gweithgareddau drymio a rhythm gyda digon o symudiad, cerddoriaeth a hwyl ryngweithiol.
Byddwn yn defnyddio drymiau Affricanaidd a rhai eitemau anarferol i helpu i greu cerddoriaeth gymunedol gyda'n gilydd a chael pawb i symud. Mae crefft gerddorol a lluniaeth ar gael hefyd.
Manylion cyswllt:
Ebost: info@oneheartdrummers.org
Ffôn: 07455 677711
Lleoliad: Amgueddfa'r Glannau Abertawe

