Toglo gwelededd dewislen symudol

Gostyngiad Treth y Cyngor i ofalwr

Os ydych yn gofalu am rywun yn eich aelwyd (heblaw am eich partner neu'ch plentyn dan 18 oed), gallai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor fod yn gymwys am ostyngiad.

Os cewch eich trin fel rhoddwr gofal, ni chewch eich ystyried pan fyddwn yn cyfrif nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo at ddibenion Treth y Cyngor.

Os yw nifer yr oedolion rydym yn eu cyfrif yn gostwng i un, gallwn roi gostyngiad 25% ar fil Treth y Cyngor.

Os na chyfrifir yr holl oedolion yn yr eiddo (fel gofalwyr neu am ryw reswm arall), gallwn roi gostyngiad 50% ar swm Treth y Cyngor.

At ddibenion Treth y Cyngor, mae 2 fath o ofalwr a bydd pobl sy'n dod dan y naill grŵp neu'r llall yn cael eu diystyru. Mae'n rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am dalu'r bil, hyd yn oed os nad yw'n anabl, wneud cais am y gostyngiad.

    1. Gofalwr neu Berthynas Di-dâl

    • Rhywun sy'n byw yn yr un eiddo â'r sawl mae'n gofalu amdano ac
    • Yn darparu gofal am 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac
    • Mae'r sawl y mae'n gofalu amdano dros 18 oed ac nid ei briod na'i bartner yw, nac yn blentyn dan 18 oed ac nid yw'n rhiant y plentyn.

    Mae'n rhaid bod y sawl y gofelir amdano'n cael un o'r budd-daliadau canlynol:

    • Lwfans Gweini
    • Cyfradd uchaf neu ganol Elfen Ofal y Lwfans Byw i'r Anabl
    • Cyfradd safonol neu uwch elfen byw bob dydd y Taliad Annibyniaeth Bersonol
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011
    • Cynnydd mewn lwfans gweini cyson dan y Cynllun Pensiynau Diwydiannol neu Ryfel
    • Cynnydd yng nghyfradd ei bensiwn anabledd o dan Adran 104 Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992

      Mae'n bosibl cyfrif mwy nag un oedolyn fel gofalu am yr un person, ar yr amod y bodlonir yr holl amodau a nodwyd uchod. Er enghraifft, gallai dau riant fod yn gofalu am fab neu ferch sy'n oedolyn.

      Cyflwyno cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Ofalwyr di-dâl Cyflwyno cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Ofalwyr di-dâl

       

      2. Gofalwr proffesiynol

      Sydd:

      • yn darparu gofal a chefnogaeth i rywun ar ran awdurdod lleol, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain, Cyngor Ynysoedd Sili, y Goron neu gorff elusennol.
      • yn cael ei gyflogi gan rywun y mae'n darparu gofal ar ei gyfer ac a gafodd ei gyflwyno gan un o'r uchod
      • wedi'i gyflogi i ddarparu gofal am o leiaf 24 awr yr wythnos, ac ni thelir mwy na £44.00 iddo'r wythnos
      • yn byw yn yr eiddo a ddarperir gan y corff perthnasol, (h.y. yr elusen) neu gan y sawl y mae'n darparu gofal ar ei gyfer.

      Cais i Ddiystyru Gostyngiad Treth y Cyngor lle bo Person yn Ofalwr (PDF) [217KB]

       

      Mae'n rhaid i chi barhau i dalu'ch bil presennol. Os yw'r bil Treth y Cyngor yn cael ei ostwng, caiff bil newydd ei anfon sy'n dangos faint y dylech ei dalu. Caiff y diystyrwch ei adolygu'n gyfnodol. Efallai y gofynnwn i chi ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth sy'n ein helpu i wneud hyn. Gall methu rhoi'r wybodaeth hon olygu y caiff y gostyngiad ei ddiddymu.

      Cofiwch: os yw'r amgylchiadau ynglŷn â'r diystyrwch yn newid, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

      Cyflwyno cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Ofalwyr di-dâl

      Mae'r gostyngiad hwn ar gyfer pobl sy'n darparu gofal a neu gymorth i berson arall nad yw'n bartner iddynt, yn bartner sifil, yn ŵr, yn wraig neu'n blentyn dan 18 oed.
      Close Dewis iaith