Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwasanaeth copio

A ydy'n bosibl archebu copiau o ddogfennau sydd gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg?

Gall staff ddarparu llungopïau i chi, o fewn canllawiau hawlfraint ac ar yr amod nad yw hyn yn difrodi'r ddogfen. Hefyd gallwch ddefnyddio'ch camera eich hunan i dynnu llun dogfennau, o fewn yr un canllawiau. Rydym hefyd yn gallu cynnig lluniau wedi'u sganio o ansawdd uchel. Am ragor o fanylion, cysylltwch â ni ar archifau@abertawe.gov.uk

Prisiau

Llungopïau trwy'r post: y tâl lleiafswm yw £7 sy'n talu am tua 10 copi. Mae pob copi pellach yn costu 70c yn ychwanegol.
Mae photocopïau a archebwyd a chasglwyd yn bersonol yn yr archifdy yn costu 70c yr un.
Gwelwch fanylion o'n ffioedd a thaliadau

Talu

  • Derbyniwn daliad trwy siec neu archeb post am archebion o'r DU.
  • Dylai pob taliad tramor fod mewn £ sterling, naill ai ar ffurf siec o fanc ym Mhrydain, neu drwy fanc tramor sydd ag asiant ym Mhrydain (gyda'r arian a nodir ar y siec yn £ sterling). 
  • Dylid anfon tâl ymlaen llaw bob tro. Cysylltwch â ni am bris cyn archebu.

Noder, er gwnawn ein gorau i foddhau ein holl ymwelwyr, diogelwch y dogfennau sydd o dan ein gofal yw ein prif ystyriaeth, a felly ni sydd i benderfynu a oes hawl i lungopïo, gan ystyried cyflwr y gwreiddiol.

Close Dewis iaith