Eglwys Crist, Abertawe
Rhestr anrhydedd argraffedig
Ym mis Medi 1915, ychydig dros flwyddyn ar ôl i'r rhyfel ddechrau, gwnaeth y Parch. J. H. Watkins Jones, ficer Eglwys Crist, restr anrhydedd o enwau'r dynion o'r plwyf oedd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Ni chafodd hon ei harddangos, ond ei hargraffu'n llyfryn a'i dosbarthu. Mae'n dweud y byddai cloch yr eglwys yn cael ei canu am 6yh bob dydd i annog pobl i weddïo dros y dynion oedd i ffwrdd ar y ffrynt.
Gan ei fod ar ffurf cylchgrawn, mae'n gallu cynnwys mwy o wybodaeth na sy'n bosibl ar y rholiau anrhydedd sydd wedi'u fframio. Mae'n rhestru'r dynion o'r plwyf i gyd sydd wedi ymuno, yn nhrefn eu catrodau. Mae hefyd yn cofnodi eu cyfeiriadau. Yn gyfanswm, mae o 460 o enwau ar y rhestr. Roedd 17 ohonynt wedi marw erbyn 1915.
Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [2MB](Yn agor ffenestr newydd)