Neuadd Genhadol Ebenezer, Abertawe
Rhestr Anrhydedd
Ymunodd yr eglwys â Chapel Stryd Henrietta yn y 1970au gan symud allan o'r capel ar Stryd Ebeneser, a gafodd ei ddefnyddio wedyn gan Eglwys y Bedyddwyr Waunwen, yr oedd angen adeilad newydd arnynt.
Roedd y rhestr gwroniaid hon wedi'i fframio'n wreiddiol, ac yn ôl pob tebyg bu'n hongian gynt ar y wal y tu mewn i'r neuadd genhadaeth. Mae wedi'i dylunio'n dda a'i darlunio'n goeth mewn inc a dyfrlliw, er nad oes llofnod i ddangos pwy oedd wedi'i darlunio. Mae'n mesur tua 35cm x 47cm.
Ac eithrio'r tri ar ddeg enw, ni roddir unrhyw wybodaeth am y dynion ar y rhestr; fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu bod yr holl ddynion hyn wedi goroesi, gan nad oes modd canfod eu henwau yn y rhestr o laddedigion.
Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF, 811 KB) (Yn agor ffenestr newydd)