Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys Bresbyteraidd Philadelphia, Treforys

Llun o'r gofeb rhyfel

Hen gapel Methodistiaid Calfinaidd yw Philadelphia sy'n sefyll ar ochr ogleddol Stryd Globe yn Nhreforys. Fe'i hadeiladwyd ym 1802, a'i estyn ym 1829, a deuai ei aelodau o'r gymuned leol. Dathlodd ei ddeucanmlwyddiant yn 2002, ond erbyn 2008 roedd wedi cau. Saif yr adeilad o hyd, ac mae wedi'i addasu'n dai.

Roedd Treforys ym 1914 yn rhan o berfeddwlad ddiwydiannol Abertawe. Roedd Stryd Globe yn cynnwys pont dros y gamlas a'r rheilffordd, y mae'r ddau ohonynt bellach wedi ildio'u lle i'r A4067 erbyn heddiw. Roedd gwaith glo a ffowndri haearn o fewn pellter byr i'r capel, a byddai simneiau'r gwaith dur, tunplat a sinc yn mygu gerllaw.

Cedwir y rhan fwyaf o gofnodion y capel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond cedwir nifer bach o eitemau yma yn Archifau Gorllewin Morgannwg, gan gynnwys y llun hwn o'r goflech rhyfel a arddangoswyd yn flaenorol yn yr eglwys. Llech gerfiedig o farmor gwyn ar gefndir du yw hon sy'n rhestru enwau'r dynion o'r eglwys a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Mae wyth enw ar brif ran y plac, gydag enw ychwanegol o dan y rhain, gan wneud cyfanswm o naw. Oddi tanodd mae plac llai i gofnodi'r ffaith mai Mr Evan R Lewis, un o flaenoriaid yr eglwys, a roddodd y gofeb.

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith