Eglwys Sant Jwdas, Abertawe
Rhestr Anrhydedd
Yn dilyn hyn, yn 2015, gorfodwyd yr eglwys i gau oherwydd problemau adeileddol yn yr adeilad, a throsglwyddwyd Rhestr y Gwroniaid i'r Gwasanaeth Archifau ynghyd â chofnodion eraill y plwyf.
Mae'n waith celf gwirioneddol wedi'i ddarlunio'n hardd â gorffeniad aur sy'n mesur oddeutu 70cm x 145cm. Dyma'r rhestr gwroniaid fwyaf sydd gennym a'r un sy'n cynnwys y nifer mwyaf o enwau, 744 i gyd. Mae rhan ganolog sy'n cynnwys enwau mewn priflythrennau aur: dyma'r 51 o ddynion y plwyf a fu farw yn y rhyfel. Yr enwau a gofnodir isod mewn inc du yw enau'r dynion hynny a aeth i ymladd, a'r menywod a fu'n nyrsio neu'n gweithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel.
Nid yw llawer o gofebion yn cofnodi enwau menywod o gwbl, ond penderfynodd plwyf Sant Jwdas y dylid coffáu pawb a gyfrannodd yn uniongyrchol at y rhyfel. Yn y gofeb hon, mae'n amhosib dweud sawl un o'r rhai a restrir sy'n fenywod oherwydd llythrennau blaen a chyfenwau'n unig yw'r rhan fwyaf o'r enwau. Er enghraifft, derbyniodd J. Evans y Groes Goch Frenhinol, medal nyrsio a ddyfernid i fenywod yn unig ar y pryd.
Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF, 2 MB) (Yn agor ffenestr newydd)