Llwybrau arfordirol, parciau a gwarchodfeydd natur
Archwiliwch arfordiroedd Gŵyr a Bae Abertawe gyda'n llwybrau cerdded, ein parciau a'n gwarchodfeydd natur.
Os ydych yn chwilio am dro byr, ardal newydd i'w harchwilio neu os hoffech herio'ch hun i gerdded ar hyd holl arfordir Abertawe a Gŵyr, mae llawer o syniadau i chi roi cynnig arnynt.
Ardal Amwynderau Bae Langland
Gerllaw traeth deniadol Bae Langland mae cyrtiau tenis, promenâd glan môr ger cytiau traeth sydd wedi eu hadnewyddu'n ddiweddar ac ardal ddymunol o lwyni a seddau.
Arfordir De Gŵyr, Rhosili i Oxwich
Mae'r darn hwn o arfordir yn doreithiog o fywyd gwyllt a hanes ac yn dirwedd amrywiol a thrawiadol o olygfeydd clogwyni, coetiroedd a thwyni tywod.
Bae Abertawe
Mae bywyd gwyllt a nodweddion naturiol a hanesyddol Bae Abertawe'n creu amgylchedd o safon eithriadol i fyw, gweithio a datblygu twristiaeth gynaliadwy ynddo.
Bae Bracelet
Bae Bracelet yw cartref Gorsaf Gwylwyr y Glannau a Goleudy'r Mwmbwls, gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren i Ddyfnaint ar ddiwrnod clir.
Blaendraeth Llwchwr
Ardal laswelltog ddymunol yw hon, gyda llawer o goed ac, fel mae'r enw yn ei awgrymu, mae'n agos at Foryd Llwchwr.
Bryn Llanmadog a Rhos Tankeylake
Mae'r ardal hon ym mhen gorllewinol penrhyn Gŵyr, rhwng pentrefi bach Llanmadog a Cheriton i'r gogledd-ddwyrain a Llangynydd i'r de-orllewin.
Clogwyni Langland
Mae'r clogwyni hyn yn estyn o'r dwyrain o Fae Langland i Limeslade.
Clogwyni Newton a Chlogwyni Summerland
Mae'r tir comin 35 hectar hwn ar lethr y clogwyn rhwng Bae Langland a Bae Caswell.
Clogwyni a Thwyni Pennard (Bae'r Tri Chlogwyn)
Mae Clogwyni Pennard (ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bennaf) yn ddarn o arfordir hardd gwyllt a garw yn ne Gwyr, gyda Bae'r Tri Chlogwyn, sy'n destun poblogaidd mewn ffotograffau, ar un pen, a Bae Pwll Du, sydd yr un mor hardd, ar y pen arall. Mae tua 4 milltir rhwng y ddau.
Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Mae Dyffryn Llandeilo Ferwallt (ger pentref Llandeilo Ferwallt), yn ymestyn o Kittle yn y gogledd i Fae Pwll Du yn y de.
Dyffryn Llandeilo Ferwallt a Bae Pwll Du (Teithiau Cerdded Arfordir Gŵyr)
Pellter amrywiaeth.
Gerddi Clun
Mae Gerddi Clun yn cynnwys casgliadau cenedlaethol amrywiol o blanhigion mewn parcdir prydferth. Yn enwog yn rhyngwladol am ei chasgliadau ysblennydd o Rododendronau, Pieris ac Enkianthus, mae'r gerddi'n cynnig hafan o lonyddwch, plannu toreithiog a nodweddion diddorol.