Clogwyni Newton a Chlogwyni Summerland
Ceir taith gerdded bleserus wrth ochr y clogwyn drwy'r safle sy'n cysylltu'r ddau fae. Mae cwrs Golff Bae Langland gerllaw.
Ceir bywyd gwyllt a nodweddion daearegol diddorol ar hyd y clogwyni calchfaen hyn. Mae planhigion prin megis y co-rosyn lledlwyd a'r ferywen yn tyfu yn y glaswelltir calchaidd hwn, sydd hefyd yn gynefin prin yn y DU.
Dynodiadau
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- Tir comin
- Tir Mynediad Agored
Cyfleusterau
- Mae caffi a bwyty ym Mae Langland
- Caffi a lluniaeth arall
- Maes parcio (talu ac arddangos) ym Mae Langland a Bae Caswell
- Toiledau cyhoeddus ym Mae Caswell
- Ffôn cyhoeddus ym Mae Caswell
Gwybodaeth am fynediad
Cyfeirnod Grid SS598871
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr
Mynedfa: gellir cyrraedd y safle o Fae Caswell a Bae Langland
Llwybrau troed
Mae llwybr troed pleserus wrth ochr y clogwyni drwy'r safle, sy'n cysylltu Bae Caswell a Bae Langland.
Ceir
Parcio (talu ac arddangos) ym Mae Caswell a Bae Langland.
Bysus
Mae'r safleoedd bws agosaf i'r safle
- ar ben Heol Bae Langland, tua ½ milltir (¾ km) o'r safle
- yn yr haf yn unig, maes parcio Bae Caswell (ger y clogwyni)