Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedu dros Galan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, Beaujolais, Nadolig a Blwyddyn Newydd 2023-2024

Os ydych chi'n bwriadu cynnal digwyddiad ar gyfer Nos Galan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, diwrnod Beaujolais neu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn eich mangre, efallai y bydd angen Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro arnoch (TEN).

Bydd hyn yn berthnasol os nad oes trwydded mangre/tystysgrif mangre clwb gennych, neu os nad yw'ch trwydded mangre/tystysgrif mangre clwb yn caniatáu'r gweithgaredd trwyddedadwy rydych yn ei gynllunio. Mae gweithgareddau trwyddedadwy'n cynnwys gwerthu neu gyflenwi alcohol, lluniaeth gyda'r nos (gwerthu bwyd twym a diod rhwng 11.00pm a 5.00am - nid yw hyn yn berthnasol i fangreoedd clwb), adloniant a reoleiddir, sy'n cynnwys cerddoriaeth, dawnsio, dramâu, ffilmiau, chwaraeon dan do, paffio a reslo. (Efallai y bydd rhai digwyddiadau bach bellach wedi'u heithrio)

Mae TEN yn caniatáu i ddigwyddiadau bara hyd at 168 o oriau ac ni chaniateir i fwy na 499 o bobl fod yn bresennol. Mae'n rhaid i drefnydd y digwyddiad gyflwyno'r hysbysiad o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad. Gellir cyflwyno TEN hwyr, ond ni ddylai hyn fod yn gynt na 9 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad nac yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad a rhaid nodi mai TEN hwyr ydyw.

Nid yw diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc, sef Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan yn y cyd-destun hwn.

Hefyd, nid yw'r diwrnodau gwaith yn cynnwys y diwrnod cyflwyno chwaith, hynny yw'r diwrnod mae'n cael ei dderbyn gan yr awdurdod, a diwrnod y digwyddiad ei hun.

Gallwch wneud cais am TEN ar-lein Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro.

Mae'r tabl canlynol yn rhoi arweiniad ar y dyddiadau cyflwyno ar gyfer TENs safonol a hwyr.

DigwyddiadDyddiad y digwyddiadDyddiad cau cyflwyno cais TEN SafonolDyddiad cau cyflwyno cais TEN Hwyr
Nos Galan Gaeaf28 Hydref 2023
31 Hydref  2023
13 Hydref 2023
16 Hydref 2023
20 Hydref 2023
23 Hydref 2023
Noson Tân Gwyllt5 Tachwedd 202320 Hydref 202327 Hydref 2023
Diwrnod Beaujolais16 Tachwedd 20231 Tachwedd 20238 Tachwedd 2023
8 Rhagfyr 20238 Rhagfyr 202323 Tachwedd 202330 Tachwedd 2023
9 Rhagfyr 20239 Rhagfyr 202324 Tachwedd 20231 Rhagfyr 2023
15 Rhagfyr 202315 Rhagfyr 202330 Tachwedd 20237 Rhagfyr 2023
16 Rhagfyr 202316 Rhagfyr 20231 Rhagfyr 20238 Rhagfyr 2023
22 Rhagfyr 202322 Rhagfyr 20237 Rhagfyr 202314 Rhagfyr 2023
23 Rhagfyr23 Rhagfyr 20238 Rhagfyr 202315 Rhagfyr 2023
Noswyl Nadolig24 Rhagfyr 20238 Rhagfyr 202315 Rhagfyr 2023
Dydd Nadolig25 Rhagfyr 20238 Rhagfyr 202315 Rhagfyr 2023
Gŵyl San Steffan26 Rhagfyr 20238 Rhagfyr 202315 Rhagfyr 2023
27 Rhagfyr 202327 Rhagfyr 20238 Rhagfyr 202315 Rhagfyr 2023
28 Rhagfyr 202328 Rhagfyr 202311 Rhagfyr 202318 Rhagfyr 2023
29 Rhagfyr 202329 Rhagfyr 202312 Rhagfyr 202319 Rhagfyr 2023
30 Rhagfyr 202330 Rhagfyr 202313 Rhagfyr 202320 Rhagfyr 2023
Nos Galan31 Rhagfyr 202313 Rhagfyr 202320 Rhagfyr 2023
Dydd Calan1 January 202413 Rhagfyr 202320 Rhagfyr 2023