Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion yn cymeradwyo lle chwarae newydd

Mae plant ym Mhengelli wedi cymeradwyo lle chwarae sydd newydd gael ei uwchraddio yn y pentref.

Eleni, rhoddir o leiaf £36,000 i bob ward yn Abertawe i'w fuddsoddi mewn cyfarpar chwarae newydd neu i wneud atgyweiriadau i gyfleusterau presennol fel rhan o fuddsoddiad sylweddol gan Gyngor Abertawe.

Gyda rhagor o arian yn cael ei ddisgwyl drwy cytundebau cynllunio cyfredol, cynghorwyr lleol yn defnyddio arian o'u cyllidebau amgylcheddol a chyfraniadau eraill, disgwylir i gyfanswm y buddsoddiad fod yn fwy na £2 filiwn.

Y gwaith gwella ym Mharc Gelli Aur yw'r cyntaf i'w agor yn swyddogol a gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Gynradd Pengelli i ddod iddo gan eu bod wedi helpu i'w ddylunio.

Meddai'r Pennaeth Helen Talaat, "Roedd ein disgyblion wedi mwynhau bod yn rhan o'r gwaith dylunio ac roeddent mor gyffrous i fynd i'r agoriad - maen nhw wrth eu bodd â'r lle chwarae newydd sy'n wych ar gyfer y pentref."

Roedd Jo Joio, masgot Joio Bae Abertawe sy'n hyrwyddo popeth sydd gan Abertawe i'w gynnig, wedi ymuno â'r disgyblion.

Cyfrannwyd yn ariannol at y project gan y contractwyr lleol Morganstone a'r grŵp tai cymdeithasol Pobl Group drwy gytundeb cynllunio sy'n gysylltiedig â'u datblygiad yn Fferm Tyrisha ac mae'r prosiect hefyd wedi cael cefnogaeth gan Gyfeillion Parc Gelli Aur, a Chyngor Cymuned Pengelli a Waungron. Cwblhawyd y gwaith gan Dragon Play and Sports.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae lleoedd chwarae i blant yn rhan allweddol o'n cymunedau sy'n galluogi plant ifanc i gael hwyl a chwarae mewn amgylchedd diogel.

"Bydd yr arian a gytunwyd gennym fel rhan o'r gyllideb yn sicrhau bod y lleoedd chwarae hyn ar draws y ddinas yn cael eu huwchraddio ac yn rhoi cyfle i deuluoedd â phlant ifanc gael hwyl a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored iach am flynyddoedd i ddod."

Mae'r ddinas yn gartref i 86 o leoedd chwarae lle gall plant chwarae'n ddiogel a chael hwyl. Mae angen gwella rhai ohonynt gryn dipyn ac mae eraill wedi cael eu hadeiladu'n ddiweddar fel rhan o ddatblygiadau newydd fel adeiladau ysgol newydd.

Dan y cynllun diweddaraf, mae cyfanswm o 18 wedi'u nodi eisoes ac mae rhaglen o welliannau wedi'i chynllunio i'w chwblhau dros yr ychydig fisoedd nesaf. Mae 18 yn rhagor hefyd wedi'u cynnwys.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y cyngor dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad, Rwy'n falch iawn o weld y lle chwarae nwydd ym Mhengelli ac yn falch o weld cymaint yr oedd y disgyblion wedi mwynhau eu hunain.

"Bydd pob ward yn Abertawe'n elwa o'r hyn rydym yn ei wneud a byddwn yn gweithio gydag aelodau ward lleol ym mhob cymuned i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y lleoedd chwarae hynny a fydd yn elwa o'r buddsoddiad ychwanegol hwn."