Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o leoedd chwarae i blant wedi'u clustnodi ar gyfer cymunedau'r ddinas

Bydd lleoedd chwarae newydd neu wedi'u hailwampio yn cael eu hadeiladu mewn 9 cymuned ar draws Abertawe'r mis hwn fel rhan o fuddsoddiad £2m gan Gyngor Abertawe.

Eleni bydd pob ward yn Abertawe'n derbyn o leiaf £36,000 i'w fuddsoddi mewn cyfarpar chwarae newydd neu i wneud atgyweiriadau i gyfleusterau presennol.

Gyda rhagor o arian yn cael ei ddisgwyl drwy gytundebau cynllunio cyfredol, cynghorwyr lleol yn defnyddio arian o'u cyllidebau amgylcheddol a chyfraniadau eraill, disgwylir i gyfanswm y buddsoddiad ar gyfer 2021 fod yn fwy na £2 filiwn.

Mae gwaith uwchraddio eisoes wedi dechrau'r mis hwn mewn lleoedd chwarae fel Parc yr Helyg, Parc Williams, Parc Montana, Weig Fawr, Pontybrenin a Dynfant, gyda rhagor i ddod fis nesaf. Mae gwaith uwchraddio a gosod cyfleusterau newydd yn cymryd tua 6 wythnos a chaiff ei wneud gan amrywiaeth o gontractwyr ar ran y cyngor.

Daw'r gwaith fel rhan o addewid gan Gyngor Abertawe i greu neu wella nifer o leoedd chwarae yn ein cymunedau wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig, ac mae'n dilyn agor yr un cyntaf ym Mharc Gelli Aur fis diwethaf.

Y gwaith gwella ym Mharc Gelli Aur yw'r cyntaf i'w agor yn swyddogol a gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Gynradd Pengelli i ddod iddo gan eu bod wedi helpu i'w ddylunio.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae lleoedd chwarae i blant yn rhan allweddol o'n cymunedau sy'n galluogi plant ifanc i gael hwyl a chwarae mewn amgylchedd diogel.

"Yn ystod y pandemig daeth lleoedd chwarae awyr agored yn hafan i blant ifanc a'u teuluoedd fwynhau'r awyr iach ac ymarfer corff yn ddiogel, ac roedd Cyngor Abertawe yno i gefnogi cymunedau.

"Bydd yr arian a gytunwyd gennym fel rhan o'r gyllideb yn sicrhau bod y lleoedd chwarae hyn ar draws y ddinas yn cael eu huwchraddio ac yn rhoi cyfle i deuluoedd â phlant ifanc gael hwyl a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored iach am flynyddoedd i ddod."

Mae'r ddinas yn gartref i 86 o leoedd chwarae lle gall plant chwarae'n ddiogel a chael hwyl. Mae angen gwella rhai ohonynt gryn dipyn ac mae eraill wedi cael eu hadeiladu'n ddiweddar fel rhan o ddatblygiadau newydd fel adeiladau ysgol newydd.

Dan y cynllun diweddaraf, mae cyfanswm o 18 wedi'u nodi eisoes ac mae rhaglen o welliannau wedi'i chynllunio i'w chwblhau dros yr ychydig fisoedd nesaf. Mae 18 yn rhagor hefyd wedi'u cynnwys.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae Cyngor Abertawe wrth ochr ei breswylwyr o hyd. Rydym yn gweithio gydag aelodau wardiau a chymunedau lleol i gyflwyno lleoedd chwarae dros y misoedd nesaf.

"Bydd pob ward yn Abertawe'n elwa o'r hyn rydym yn ei wneud a byddwn yn gweithio gydag aelodau ward lleol ym mhob cymuned i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y lleoedd chwarae hynny a fydd yn elwa o'r buddsoddiad ychwanegol hwn."

Dyma'r rhestr lawn o leoedd chwarae sy'n cael eu huwchraddio ym mis Mehefin:

Parc Williams, Parc Knoyle, Parc Llanyrnewydd ym Mhen-clawdd, Heol Frank ym Mhenderi, Parc Montana, Tre-gŵyr, Weig Fawr, Pontybrenin ac ardal gemau amlddefnydd Parc Dynfant.

Fis nesaf disgwylir i waith ddechrau yn Ravenhill, Cwm Glas, Parc Port Tennant, Parc Polly a Pharc Newton yng Nghlydach.