Toglo gwelededd dewislen symudol

Amddiffynfeydd môr y Mwmbwls Ymgynghoriad yn symud i'r cam nesaf

Mae Cyngor Abertawe'n lansio'r cam nesaf yn ei raglen ymgynghori i uwchraddio amddiffynfeydd môr i helpu i amddiffyn y Mwmbwls am y ganrif nesaf.

Mae'r prosiect yn cael ei reoli gan bersonél priffyrdd a chludiant y cyngor.

Sicrhawyd ymgynghorwyr, peirianwyr a dylunwyr arobryn Amey Consulting - y mae ganddynt brofiad helaeth mewn mentrau amddiffynfeydd môr - i gyflwyno dyluniadau ar gyfer gwella amddiffynfeydd ar hyd y morglawdd yng nghymuned Abertawe. Maent yn gweithio ar y cyd â'r partneriaid cyflwyno JBA Consulting ac LDA Design.

Adeiladwyd yr amddiffynfeydd môr presennol dros ganrif yn ôl fel rhan o'r gwaith i ehangu rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls. Maent wedi gwrthsefyll llanwau uchel a stormydd dros sawl degawd.

Ond erbyn hyn mae'r cyngor wedi sicrhau cyllid ar gyfer cynllun â'r nod o amddiffyn yr ardal rhag lefelau môr cynyddol a llanwau uchel ar gyfer y ganrif nesaf.

Mae Amey wedi datblygu cynigion yn dilyn sesiynau ymgysylltu â'r gymuned a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2019.

Nawr, cesglir adborth am y cynigion dylunio cychwynnol drwy broses ymgynghori. Bydd yr ymgynghoriad tair wythnos - gyda phobl, busnesau a sefydliadau ar draws y Mwmbwls - yn helpu i'w hysbysu ynghylch y gwaith sydd ynghlwm wrth y prosiect, cyn cais cynllunio ffurfiol y disgwylir ei gyflwyno'r haf hwn.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd: "Mae'r amddiffynfeydd môr presennol wedi gwasanaethu'r Mwmbwls yn dda dros y ganrif ddiwethaf - ond maent yn dangos arwyddion sylweddol o draul.

"Ar ben hynny, mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer lefelau môr cynyddol dros y blynyddoedd nesaf. Mae ein hymchwiliadau'n dangos bod oddeutu 80 eiddo ar hyd glan y môr yn y Mwmbwls mewn perygl o lifogydd, ac y bydd dros 120 eiddo'n cael eu bygwth dros y blynyddoedd nesaf os nad ydym yn gwneud unrhyw beth.

"Rydym wedi gweld yn ddiweddar y dinistr y mae llifogydd wedi'i achosi i deuluoedd a busnesau yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni gymryd camau gweithredu i osgoi hynny yma.

"Mae prom y Mwmbwls yn eithaf isel, ac mae'n eithaf cyffredin i ni brofi dŵr y môr ar y droedffordd. Yn ystod cyfnodau llanwau uchel, rydym yn rhoi boncyffion atal ar draws agoriadau yn waliau'r meysydd parcio sydd wedi'u gosod ychydig yn ôl o'r morglawdd.

"Y nod gydag unrhyw amddiffynfeydd môr newydd yw bod yn sensitif i'r Mwmbwls fel cyrchfan glan môr i ymwelwyr wrth amddiffyn y bobl a'u heiddo."

Dywedodd fod y broses gychwynnol i ymgysylltu â'r gymuned wedi dangos bod pobl leol yn cydnabod bod angen uwchraddio'r amddiffynfeydd môr a bod cefnogaeth ar gyfer ymgynghoriad pellach ar sut olwg fyddai ar yr amddiffynfeydd.

Bydd yr ymgynghoriad newydd yn darlunio'r dyluniad arfaethedig ar gyfer gwella'r mesurau amddiffyn arfordirol a diogelu ardaloedd isaf glan môr y Mwmbwls ar hyd pellter o oddeutu 1.2km o fwyty Verdi's i faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth.

Ni wnaed unrhyw benderfyniadau eto ynghylch golwg y dyluniad terfynol ac ni chaiff unrhyw benderfyniadau eu gwneud nes bod barn y gymuned, fel rhan o'r ymgynghoriad diweddaraf sy'n cael ei reoli gan Amey Consulting a'r cyngor, yn cael ei hystyried.

Heblaw am ddarparu amddiffynfeydd newydd i amddiffyn y gymuned, bydd y broses hefyd yn cynnig y cyfle i'r cyhoedd gael dweud eu dweud ar faterion fel seddi newydd, ailwynebu a gwelliannau amgylcheddol eraill. Bydd cyfle hefyd i awgrymu syniadau ar sut gallai'r lle edrych a'r defnydd o ardaloedd allweddol yn agos i'r morglawdd yn y dyfodol; gallai materion gynnwys parcio, teithio llesol, tirlunio, goleuadau a chwarae.

Meddal Lee Selway o Amey Consulting, "Mae ymgynghoriad blaenorol ar y prosiect hwn wedi dangos cryn ddiddordeb yn lleol yn y cynlluniau i gyflwyno cynllun a fydd yn amddiffyn y gymuned rhag llifogydd am flynyddoedd lawer i ddod.

"Yn ogystal â rheoli perygl llifogydd arfordirol, bydd y cynllun yn ceisio cadw a gwella'r prom a'r cyfleusterau glan môr.

"Rydym yn awyddus iawn i ddysgu mwy am yr hyn y mae pobl leol yn ei feddwl o'r dyluniadau diweddaraf fel rhan o gam diweddaraf y broses ymgynghori."

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am yr ymgynghoriad a dyluniadau arfaethedig y morglawdd yma: Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2021