Plant yn dathlu ardal chwarae newydd yn Heol Las
Mae plant sydd wedi bod yn mwynhau diwrnodau allan ym Mharc Heol Las yn Abertawe wedi cael rheswm ychwanegol i ddathlu'r haf hwn o ganlyniad i waith uwchraddio i ardal chwarae'r parc.
Fe'i hagorwyd yn swyddogol ddydd Llun gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, yn ystod digwyddiad cymunedol arbennig a wnaed yn ddiwrnod cofiadwy drwy gynnal ffair fach gyda stondinau, hwyl a gemau i blant eu mwynhau.
Mae'r gwaith adnewyddu'n rhan o raglen gwerth mwy na £2m ar draws Abertawe i wella ardaloedd chwarae i blant ifanc ar draws y ddinas â'r nod o ariannu mwy na 30 o barciau ac ardaloedd chwarae dros y misoedd nesaf.
Talwyd am brosiect Heol Las, sy'n werth £120,000, gan gyllidebau aelodau'r wardiau ynghyd ag ymdrech codi arian leol gan Gyfeillion Parc Heol Las, sydd wedi helpu i wella cyfleusterau y gall plant eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.
Mae ardal chwarae Parc Heol Las yn cynnwys weiren sip 12m o hyd, trampolîn bach, siglenni ar gyfer plant ifanc a phlant hŷn ac amrywiaeth o gyfarpar eraill er mwyn cadw plant ifanc yn hapus am oriau ar y tro.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'n wych gweld yr holl newidiadau a gwelliannau a wnaed i'r parc. Mae ymrwymiad y gymuned i helpu'r prosiect i lwyddo'n wych oherwydd y bydd pobl yn teimlo bod ganddynt ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth.
"Yn ystod y pandemig, mae'r cyngor wedi sicrhau bod ardaloedd chwarae ar agor er mwyn i blant ifanc allu chwarae'n ddiogel ac maent wedi dod yn hafan ddiogel i deuluoedd ifanc yn ystod cyfnod anodd.
"Rydym yn parhau i gefnogi'n cymunedau wrth iddynt adfer, drwy annog yr ysbryd a'r teimlad o gydberthynas a wnaeth ein helpu drwy'r cyfnodau anodd trwy gyflwyno'r ardaloedd chwarae newydd a chyffrous hyn.
"Mae'r cyngor wedi gweithio gydag aelodau'r wardiau yn y gymuned leol i sicrhau eu bod wedi gosod yr offer yr oedd y plant ifanc am eu cael.
"Mae'n wych gweld pobl ifanc yn mwynhau eu hunain cymaint heddiw ac mae'n golygu bod yr holl ymdrech yn werth chweil. Rwy'n gobeithio y byddant yn cael hwyl yn yr ardal hon am flynyddoedd i ddod."
Mae gwaith uwchraddio newydd ddechrau ym Mharc Ravenhill ac yn yr ardal chwarae boblogaidd ger Llyn Cychod Parc Singleton. Disgwylir i'r gwaith yn y ddau leoliad gael ei gwblhau mewn oddeutu chwe wythnos.
Hyd yn hyn, cwblhawyd gwaith uwchraddio mewn wyth lleoliad o gwmpas y ddinas ac mae cynlluniau yn yr arfaeth ar gyfer mwy mewn ardaloedd gan gynnwys Mayhill, Treforys, Llandeilo Ferwallt a Chwmbwrla.