Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad diogelu (Mawrth 2013)

Ar gyfer gwasanaethau Addysg a Dysgu Gydol Oes.

1. Rhagarweiniad

Lluniwyd y ddogfen arweiniol hon i gefnogi arfer da wrth ddiogelu ac amddiffyn plant mewn gwasanaethau addysg a dysgu gydol oes. Mae'r arweiniad hwn yn diffinio'n glir y disgwyl i ysgolion a gwasanaethau cefnogi addysg roi polisïau a gweithdrefnau diogelu ar waith, sy'n cydymffurfio â gweithdrefnau ac arweiniad lleol a chenedlaethol.

Mae Dinas a Sir Abertawe'n rhoi pwyslais mawr ar yr angen i gyfle cyfartal fod wrth wraidd pob gweithgaredd sy'n ymwneud â phlant, a bydd yn parhau i hybu a datblygu ei rôl fel eiriolwr ac amddiffynnwr i'r rhai sy'n cael anawsterau arbennig wrth gyflawni eu llawn botensial.

Mae Dinas a Sir Abertawe'n cymryd ei rôl a'i gyfrifoldebau i amddiffyn a diogelu lles a buddiannau pob plentyn yn ei ofal o ddifrif. Ni ellir tanbrisio ei rôl wrth amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu camfanteisio a/neu u camdrin.

Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn faes gwaith heriol ac anodd. Caiff yr anawsterau a'r gofynion hyn eu cydbwyso ag amserau boddhaol, wrth i'r staff gydweithio i gefnogi ac amddiffyn plant a phobl ifanc. Mae Dinas a Sir Abertawe'n cydnabod y ffactorau a'r nodau hyn i sicrhau y darperir hyfforddiant ac arweiniad priodol yn y maes sensitif ond hanfodol hwn ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol sy'n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc.

Mae digon o dystiolaeth bod gwaith diogelu effeithiol yn gofyn am weithdrefnau clir a chadarn a chydweithredu da rhwng asiantaethau, ac mae angen i'r rhai sy'n gweithio yn y maes fod yn gymwys ac yn hyderus wrth nodi sefyllfaoedd amddiffyn plant ac ymatbe iddynt.

Wrth lunio'r arweiniad hwn, bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio profiad, gweithdrefnau ac arferion yr ymarferwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau addysgol, cymdeithasol, iechyd a rhai cysylltiedig eraill. Caiff yr arweiniad hwn ei gyfeirio hefyd gan arfer da hysbys yn Ninas a Sir Abertawe ac yn genedlaethol, ac mae'n cyd-fynd â pholisïau, protocolau a gweithdrefnau Bwrdd Diogelu Plant Abertawe/Bae'r Gorllewin (BDPA/BG)

2. Rôl yr Awdurdod Lleol

Mae adrannau 27 a 47 y Ddeddf Plant yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynorthwyo gwasanaethau cymdeithasol lleol sy'n gweithredu ar ran plant a phobl ifanc sydd mewn angen neu sy'n dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed sylweddol.

Mae'n ofyniad dan adran 175 Deddf Addysg 2002 i awdurdodau a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach wneud trefniadau i sicrhau y caiff eu swyddogaethau eu cyflawni gan ystyried diogelu a hyrwyddo lles plant.

At ddiben y ddogfen hon, disgrifiad plentyn yw person hyd at 18 oed, fel a ddisgrifir yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008.

Yn ogystal â'r ddyletswydd statudol hon, ceir cyfrifoldeb corfforaethol a bugeiliol, sy'n cydnabod bod gan bob plentyn a pherson ifanc sy'n defnyddio neu y mae angen iddynt ddefnyddio'r gwasanaethau a ddarperir gan Ddinas a Sir Abertawe yr hawl sylfaenol i gael eu hamddiffyn rhag niwed.

Bwriedir i'r arweiniad hwn ailgadarnhau'r cyfrifoldebau hynny, ac mae'n ceisio sicrhau bod pob aelod o staff sy'n gweithio gyda neu ar ran plant a phobl ifanc yn Abertawe yn ymwybodol o'r angen i weithredu mewn modd cyson er mwyn gwella lles a diogelwch plant.

Wrth gyflawni hyn, bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant yr Adran Addysg yn adrodd i'r Uwch Dîm Arwain (UDA) ar gyfer Addysg yn rheolaidd i drafod materion sy'n ymwneud â diogelu plant yn Abertawe. Mae'r awdurdod lleol hefyd yn cymryd o ddifrif ei gyfrifoldebau i fynd i'r afael â materion arfer, polisi a hyfforddiant ar gyfer yr holl sefydliadau addysg yn Ninas a Sir Abertawe. Bydd Uwch Dîm Arweinyddiaeth yr Adran Addysg yn cefnogi ac yn hyrwyddo gwaith BDPA/BG.

3. Diben yr arweiniad

Nod yr arweiniad hwn yw darparu fframwaith sy'n sicrhau bod polisïau ac arferion yn y Gwasanaethau Addysg a Dysgu Gydol Oes yn gyson ac yn unol â'r gwerthoedd a nodir sydd wrth wraidd yr holl waith a wneir gyda phlant a phobl ifanc. Fel y cyfryw, mae'r ddogfen hon yn darparu cyd-destun ar gyfer sefydlu arfer da ym mhob mater sy'n ymwneud ag amddiffyn plant a gofalu amdanynt.

Mae'r ddogfen hon hefyd yn ceisio egluro i bob aelod o staff Dinas a Sir Abertawe yn y Gwasanaethau Addysg a Dysgu Gydol Oes am eu cyfrifoldebau proffesiynol i sicrhau eu bod yn cyflawni dyletswyddau statudol ac eraill yn unol â'r holl ofynion a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol.

4. Gwerthoedd sylfaenol

Gwerth trosgynnol: mae lles y plentyn yn hollbwysig

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi 7 nod craidd yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Dyma'r nodau:

  1. Cael dechrau teg mewn bywyd;
  2. Derbyn amrywiaeth cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu ac addysgu;
  3. Mwynhau'r iechyd gorau posib heb gael eu cam-drin, eu herlid na'u camfanteisio;
  4. Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol;
  5. Cael pobl i wrando arnynt a'u trin â pharch, a chydnabod eu hil a'u hunaniaeth ddiwylliannol;
  6. Byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy'n cynnal lles corfforol ac emosiynol; a
  7. Pheidio â bod dan anfantais oherwydd tlodi.

Gwerthoedd sylfaenol eraill:

  • Mae gan blant yr hawl i gael eu trin â pharch ac urddas; felly hefyd yr oedolion sy'n gweithio gyda hwy.
  • Mae'n gyfrifoldeb ar bob oedolyn i amddiffyn plant.
  • Bydd yn gyfrifoldeb ar bob oedolyn sy'n gweithio am gyflog neu'n wirfoddol yn yr Adran Addysg a sefydliadau cysylltiedig i amddiffyn plant rhag niwed pryd a lle bynnag y bydd mewn sefyllfa i wneud hynny.
  • Dylai pob plentyn gael y cyfle i godi pryderon, mynegi ei farn a chyfrannu at benderfyniadau a wneir am eu bywydau a rhoi sylwadau arnynt, pryd bynnag bo hynny'n briodol.
  • Caiff yr holl waith gyda phlant a phobl ifanc ei gyfeirio gan gyfle cyfartal ac arfer gwrthormesol, a bydd yn adlewyrchu anghenion y cymunedau a wasanaethwn.
  • Rhaid i bawb sy'n gweithio gyda neu ar ran plant a phobl ifanc adlewyrchu a hyrwyddo gwerth 'Cydweithio' â rhieni, cydweithwyr ac asiantaethau eraill er mwyn creu amgylcheddau diogel ac amddiffyn plant rhag niwed.

5. Polisïau, Gweithdrefnau ac Arfer

Bydd pob sefydliad neu wasanaeth sydd o fewn maes cyfrifoldeb yr Adran Addysg ac sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn sicrhau bod staff dynodedig ar gael sy'n gymwys i ymateb i sefyllfaoedd a phryderon amddiffyn plant pryd bynnag y byddant yn codi. Mae'r awdurdod lleol yn argymell y dylid enwebu dirprwy berson dynodedig ym mhob sefydliad i allu cyflenwi am y person dynodedig pan fo'n absennol.

Yn y sefydliadau a'r gwasanaethau hyn, bydd Polisi Amddiffyn Plant yn ei le. Mae'r awdurdod lleol wedi llunio dogfen dempled y gellir ei haddasu a'i theilwra i fod yn addas ar gyfer anghenion unigol pob ysgol, sefydliad etc. Ceir copi o'r ddogfen hon yn Atodiad A (PDF) [121KB]. Bydd y ddogfen hon yn adlewyrchu'r arweiniad a'r cyngor a dderbyniwyd gan ffynonellau cenedlaethol a lleol, yn benodol Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (GAPCG) (Ebrill 2008), Diogelu Plant mewn Addysg (Ebrill 2008) a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig y mae'r BDPA/BG wedi cytuno arnynt.

Yn ogystal â'r ddogfen dempled, mae'r awdurdod lleol wedi paratoi Llyfryn Gwybodaeth ac Arweiniad i Ysgolion (Mawrth 2011). Mae copïau o'r llyfryn hwn wedi cael eu dosbarthu i'r holl ysgolion a sefydliadau yn Abertawe er mwyn iddynt eu dosbarthu i bob aelod o'u staff. Ceir copi yn Atodiad B. Yn y llyfryn hwn ceir gwybodaeth am ymdrin â phryderon am gydweithwyr, canllawiau ar gyfer yr Aelod Dynodedig o Staff, storio a throsglwyddo cofnodion a manylion cyswllt a gwybodaeth ar gyfer y Tîm Canolog Cynghori, Cyfeirio ac Asesu Plant.

Mae Llywodraethwyr Cymru wedi datblygu ffeithlen am ddatgelu camarfer. Ceir copi o'r ddogfen hon yn Atodiad C. Yn ogystal, ceir gweithdrefnau Llywodraethwyr Cymru ar gyfer staff ysgolion a pholisi enghreifftiol i'w fabwysiadu gan gyrff llywodraethu, a gyhoeddwyd ar 3 Rhagfyr 2007 (Cylchlythyr 36/2007) ar wefan Llywodraethwyr Cymru.

6. Côd Ymddygiad

Bydd pob oedolyn sy'n gweithio yn Abertawe naill ai am gyflog neu'n wirfoddol yn glynu wrth godau ymarfer penodol a nodir yn glir ym mholisi pob sefydliad. Caiff y disgwyliad hwn o ran y côd ymarfer ei bwysleisio i bob unigolyn ar ddechrau cyflogaeth neu gyfnod o gefnogaeth wirfoddol.

Bwriedir i godau ymarfer o'r fath ddiogelu lles plant ac amddiffyn oedolion y cydnabyddir eu bod yn agored i niwed mewn rhai sefyllfaoedd.

7. Adolygu a chadw cofnodion

Mae'n hanfodol cadw cofnodion yn dda mewn sefyllfaoedd lle tybir neu gredir y gallai plentyn fod mewn perygl o gael ei niweidio neu'n debygol o fod mewn perygl o gael ei niweidio.

Bydd yn ofynnol i bob sefydliad a gwasanaeth gynnal cofnodion amddiffyn plant cywir a pherthnasol. Caiff y cofnodion eu cadw mewn lle diogel ond ar wahân i'r holl gofnodion eraill sy'n ymwneud â'r plentyn penodol. Ni fydd modd i neb ond y person dynodedig/pobl ddynodedig gael hyd i'r cofnodion amddiffyn plant a'u cynnal. Gall fod gan y sefydliad neu'r gwasanaeth ddirprwy berson dynodedig a enwir a all gael hyd i'r cofnodion os bydd angen.

Bydd angen i bob sefydliad a gwasanaeth gynnwys gweithdrefnau penodol yn eu polisi ar gyfer trosglwyddo cofnodion sensitif pan fo gofyn am hyn. Mewn ysgolion mae'r awdurdod lleol wedi llunio polisi a gweithdrefnau y mae'n rhaid glynu wrthynt pan fo angen trosglwyddo cofnodion sensitif. Gellir gweld y rhain ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae cofnodion amddiffyn plant yn amodol ar y trefniadau ar gyfer cynnal cyfrinachedd a storio yn y sefydliad hwnnw. Caiff y cofnodion eu cadw am gyfnod o ddim llai na 7 mlynedd ar ôl i'r plentyn gyrraedd 18 oed.

Bydd rhannu gwybodaeth neu gofnodion yn amodol ar brotocolau a gweithdrefnau Dinas a Sir Abertawe a BDPA/BG y cytunwyd arnynt.

Bydd pob sefydliad neu wasanaeth yn cadw ac yn cynnal cofnodion sy'n manylu ar honiadau o gam-drin yn erbyn unrhyw aelod o staff sy'n gweithio iddynt, boed hynny yn gyflogedig neu'n wirfoddol, beth bynnag y bo'r canlyniad. Mae gofyniadau clir am sut i rannu gwybodaeth â sefydliadau cyfreithiol neu statudol e.e. ISA a Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC). Mae cyngor ac arweiniad ar rannu'r wybodaeth benodol hon ar gael gan yr Adran Adnoddau Dynol.

8. Recriwtio, goruchwylio a chefnogi staff

Dros y blynyddoedd diweddar cafwyd mwy o ymwybyddiaeth o'r posibilrwydd o gam-drin gan bobl yr ymddiriedir ynddynt oherwydd eu swydd neu eu statws ac felly, mae'n hanfodol recriwtio a dethol staff yn ofalus ac yn drylwyr. Bydd angen i'r rhai sy'n gyfrifol am gyflogi a dethol staff gymryd pob rhagofal i sicrhau y dilynir gweithdrefnau gwirio trylwyr. Mae'n rhaid bod yn ofalus i sicrhau y caiff yr holl fanylion eu gwirio ac y gofynnir am eirdaon ac y cafodd y rhain eu gwirio wedi'u derbyn. Gellir cael mwy o arweiniad a chefnogaeth trwy gysylltu ag Adran Adnoddau Dynol yr awdurdod lleol sy'n cynnig hyfforddiant ar gyfer penaethiaid a llywodraethwyr ar recriwtio diogel.

Bydd yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr yn cadw cofnod o benaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr sydd wedi cyflawni hyfforddiant recriwtio diogel ac yn atgoffa penaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr i fynd i hyfforddiant wedi'i ddiweddaru fel rhan o raglen dreigl tair blynedd. Lle bo llywodraethwyr yn ymwneud â recriwtio ond heb gyflawni hyfforddiant recriwtio diogel, bydd y pennaeth yn gyfrifol am raeadru gwybodaeth ynglŷn â recriwtio diogel i aelodau'r panel penodi.

Bydd angen i'r cyflogwr posib gynnal gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio (GDE) manwl ar gyfer pob aelod o staff a chydymffurfio â gofynion y Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio (Rhagfyr 2012) i'r rhai sy'n bwriadu gweithio gyda phlant. Mae'n bolisi yn Ninas a Sir Abertawe i adnewyddu gwiriadau'r GDE bob tair blynedd.

Hefyd mae'n rhaid i bob sefydliad neu wasanaeth sicrhau bod pob aelod o staff sy'n gweithio gyda phlant yn gallu derbyn sesiwn sefydlu, hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth priodol.

9. Hyfforddiant

Bydd angen i benaethiaid a rheolwyr sicrhau bod pob aelod o'u staff yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant sy'n berthnasol ac yn briodol i'w rôl. Argymhellir bod pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant amddiffyn plant wedi'i ddiweddaru ar adeg pan fo'r pennaeth neu'r rheolwr unigol yn ystyried ei fod yn angenrheidiol. Mae Abertawe'n gweithredu rhaglen hyfforddi dreigl tair blynedd a dylai pob aelod o staff dderbyn hyfforddiant o leiaf bob yn drydedd blwyddyn os nad ynghynt. Bydd y cyrsiau hyfforddi'n gwella gwybodaeth a'r gallu i nodi ac ymateb i sefyllfaoedd lle mae plant wedi cael eu niweidio neu'n debygol o gael eu niweidio ac ystyrir eu bod mewn perygl.

Mae'r awdurdod yn darparu hyfforddiant trwy ei Swyddog Amddiffyn Plant ac yn ceisio sicrhau bod unrhyw hyfforddiant a gynigir yn cyd-fynd â gwaith BDPA/BG ac yn ei gefnogi fel a nodir yn ei is-grŵp hyfforddiant sy'n rhan o'r Grŵp Hyfforddiant Rhanbarthol.

Dylai staff fod yn gwbl ymwybodol o'u rôl a'u cyfrifoldebau o ran amddiffyn plant a dylent fod yn ymwybodol o rôl eu cydweithwyr a'i ddeall, gan gynnwys cydweithwyr o asiantaethau cefnogi.

10. Cysylltiadau â Pholisïau Eraill a Deddfwriaeth ac Arweiniad Arall

Dylid ystyried yr arweiniad hwn yng nghyd-destun polisïau eraill sy'n ymwneud â gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Bydd angen i staff fod yn ymwybodol o sut gall materion eraill effeithio ar sefyllfaoedd amddiffyn plant, megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, cam-drin yn y cartref, materion iechyd meddwl, camfanteisio ar blant yn rhywiol, priodasau dan orfod a llurgunio organau rhywiol merched, a bydd angen iddynt ystyried y rhain.

 

Close Dewis iaith