Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hawliau plant a phobl ifanc

Pan fyddwn yn creu polisïau newydd neu'n diwygio polisïau rydym yn sicrhau ein bod wedi edrych ar yr effaith ar hawliau plant a phobl ifanc.

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i sicrhau bod ein polisïau a'n swyddogaethau'n cael effaith gadarnhaol ar y plant a'r bobl ifanc yn Abertawe. Rydym wedi gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn y ffordd rydym yn gosod ein polisïau. 

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i greu platfform ar gyfer newid er mwyn sicrhau diwylliant lle mae hawliau plant yn cael eu hystyried yn ymwybodol yn ein holl waith, gan arwain at wasanaethau gwell ac yn byw i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn Abertawe.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a'r rhai sy'n gweithio gyda phlant i sicrhau bod ein cynnig yn gyfredol, yn berthnasol ac yn ystyrlon i blant a phobl ifanc. Mae Sichrau Hawliau Plant yn nodi'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i wneud hawliau plant yn realiti yn Abertawe a sut rydym yn bwriadu gwneud hyn, gyda chymorth yr holl bobl y mae'n effeithio arnynt.

Mae gan CCUHP 42 erthygl sy'n nodi sut y dylid trin plant.

Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu plant rhag esgeulustod a gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac sy'n cefnogi eu lles pennaf. Trwy ddefnyddio'r arweiniad CCUHP rydym yn gobeithio sicrhau bod hyn yn digwydd ym mhopeth y mae'r cyngor yn ei wneud.

Os hoffech wybodaeth ychwanegol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, e-bostiwch ni yn uncrc@abertawe.gov.uk.

Gwasansaeth e-bost - Hawliau Plant

Cofrestrwch yma ar gyfer ein e-bost Rhwydwaith Gwybodaeth Hawliau Plant.

Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2021

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn nodi'r hawliau sydd gan bob plentyn 0-18 oed i sicrhau eu bod yn iach, yn hapus ac yn ddiogel.

Sicrhau Hawliau Plant!

Cynllun i helpu Cyngor Abertawe i roi hawliau plant wrth wraidd ei benderfyniadau.
Close Dewis iaith