Asiantau gofal cartref
Gwybodaeth am ofal cartref a ddarperir trwy asiantaethau eraill.
Gall asiantau gofal cartref, ddarparu gofal personol a chefnogaeth ymarferol i bobl sydd angen ychydig mwy o gefnogaeth yn y cartref.
Gall gofal personol gynnwys help i godi a mynd i'r gwely, cael bath, gwisgo, prydau bwyd a meddyginiaeth. Mae rhai asiantaethau gofal hefyd yn rhoi help gyda'r gwaith ty a'r siopa, cefnogaeth i fynd i ddigwyddiadau cymdeithasol a 'gwasanaethau eistedd' sy'n galluogi gofalwyr i gael seibiant.
Mae nifer o asiantaethau gofal cartref yn gweithredu yn ardal Abertawe. Dylech wneud yn sicr bod unrhyw asiantaeth rydych yn ei dewis wedi'i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd). Dylai unrhyw asiant gofal yr ydych yn ei gyflogi rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi am y gwasanaeth y byddant yn ei ddarparu a sut y bydd hyn yn cael ei weithredu. Sicrhewch eich bod chi'n glir ynghylch y trefniadau talu cyn i chi gytuno ar gael gwasanaeth.
Mae gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) gyfeiriadur o wasanaethau gofal cofrestredig y gallwch bori drwyddo i ddod o hyd i asiantaethau gofal cartref cofrestredig yn Abertawe.