Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofal cartref

Os ydych chi'n cael hi'n anodd ymdopi â'ch anghenion gofal personol, efallai y gall gwasanaethau gofal cartref eich helpu i ymdopi â bywyd bob dydd.

Mae rhai pobl yn dechrau cael hi'n anodd ymdopi â bywyd bob dydd yn y cartref gan eu bod yn mynd yn hyn neu'n fwy bregus, neu o achos effaith anabledd neu salwch. Gall gwasanaeth sy'n darparu gofal personol neu gefnogaeth ymarferol i bobl yn eu cartref eu hunain eu helpu i gadw eu hannibyniaeth.

Mae gwasanaethau gofal cartref yn cyfeirio at wasanaeth lle mae rhywun yn dod i'ch ty yn rheolaidd i wneud y tasgau personol neu gartref hynny ni allwch chi eu gwneud eich hunain.

Gall gofal personol gynnwys help i godi a mynd i'r gwely, cael bath, gwisgo, prydau bwyd a meddyginiaeth. Gall cefnogaeth ymarferol gynnwys help gyda gwaith ty, siopa a mynd allan.

Darperir gofal yn y cartref drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl sydd wedi cael eu hasesu fel rhywun sydd â lefelau uchel o anghenion gofal personol. 

Weithiau dim ond gyfnod byr y mae angen gofal cartref ar rai pobl er mwyn eu helpu rhoi trefn ar bethau ar ôl salwch neu gyfnod yn yr ysbyty. Bydd y math yma o ofal byrdymor yn cael ei ddarparu gan staff gofal cymdeithasol ac iechyd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn ganolbwyntio ar eich helpu chi i wneud pethau ar eich pen eich hun er mwyn i chi allu ymdopi ar eich pen eich hun unwaith eto.

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, neu os yw'n well gennych chi wneud eich trefniadau eich hun, mae nifer o asiantau gofal cartref yn ardal Abertawe sy'n darparu gofal personol a chymorth ymarferol.

Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cartref

Gwybodaeth am wasanaethau gofal cartref drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Asiantau gofal cartref

Gwybodaeth am ofal cartref a ddarperir trwy asiantaethau eraill.

Cwestiynau cyffredin gofal cartref

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drefnu gofal cartref.

Taliadau am ofal a chefnogaeth yn y cartref

Yr hyn y disgwylir i chi ei dalu o bosib tuag at gostau eich gofal cartref a sut rydym yn cyfrifo'r ffioedd.

Gwasanaethau ailalluogi

Mae'r rhan fwyaf ohonom am barhau i fyw gartref, i fod mor annibynnol â phosib. Weithiau ar ôl cyfnod o afiechyd, mae angen ychydig mwy o gefnogaeth ar bobl.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Medi 2021