Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth ar-lein a digidol i fusnesau

Mae cael busnes sydd wedi'i gysylltu'n llawn ac ar-lein bellach yn arf hanfodol bwysig i gysylltu â chwsmeriaid a chael gafael arnynt.

Mae amrywiaeth o fesurau cymorth bellach ar gael i gefnogi busnesau, gall hynny gynnwys cysylltiad band eang gwell yn ogystal â sut y gellir defnyddio'r cysylltiad hwn yn well i adeiladu eich sylfaen fusnes.

Gwella ansawdd eich gwasanaeth band eang

Os na allwch gael gwasanaeth band eang digonol, efallai y bydd cymorth ar gael i ddarparu cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy.

Allwedd Band Eang Cymru (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Fel rhan o'r gwaith o osod rhyngrwyd band eang cyflym iawn, mae Access Cymru yn cynnig grantiau i gyllido (neu gyllido'n rhannol) costau gosod cysylltiadau band eang ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghymru. Mae'n rhaid i gysylltiadau newydd trwy'r cynllun hwn newid y cyflymder yn sylweddol: o leiaf dyblu eich cyflymder lawrlwytho presennol e.e. mae'n rhaid i gysylltiad 10Mbps presennol wella i o leiaf 20Mbps.

Mae cyfanswm y cyllid a gewch yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd. Gallwch gael £400 am 10Mbps ac uwch, neu £800 am 30Mbps ac uwch.

Cynllun Talebau Band Eang Gigabit Gwledig (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Cynllun Talebau Band Eang Gigabid Llywodraeth y DU yn rhan o'i gweledigaeth ar gyfer Prydain a fydd â gwasanaeth band eang ffibr llawn. Gall busnesau bach a'r cymunedau o'u cwmpas ddefnyddio'r talebau gigabid i gyfrannu tuag at y gost o osod cysylltiad band eang sy'n gallu delio â gigabid. Mae busnesau a thrigolion yng Nghymru yn gymwys i gael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn.

Drwy'r cynllun gall busnesau hawlio hyd at £3,500 ar hyn o bryd tuag at gost cysylltiad sy'n gallu delio â gigabid, un ai'n unigol neu fel rhan o brosiect grŵp. Gall trigolion hawlio taleb gwerth £1,500 fel rhan o brosiect grŵp gyda busnes.

I brosiectau grŵp, bydd Llywodraeth Cymru yn talu hyd at £3,500 ychwanegol fesul busnes bach i ganolig ei faint ynghyd â £1,500 ychwanegol fesul eiddo preswyl. Mae hyn yn golygu bod hyd at £7,000 ar gael i brosiectau grŵp yng Nghymru fesul busnes, a bod hyd at £3,000 ar gael fesul eiddo preswyl.

Rhaglen Fibre First Openreach (Yn agor ffenestr newydd)

Bydd miloedd o gartrefi a busnesau yn Abertawe'n elwa o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Openreach. Bydd technoleg a fydd yn briodol ar gyfer y dyfodol yn darparu dibynadwyedd i ddefnyddwyr cartref a busnes gan sicrhau cysylltedd am ddegawdau i ddod.

Mae rhwydwaith ffôn a band eang mwyaf y DU yn sicrhau bod technoleg newydd, fwy dibynadwy a chadarn ar gael i ddegau ar filoedd o gartrefi a busnesau ar draws y ddinas. Yr ardaloedd cyntaf i elwa fydd y rhai â chodau post SA1, SA2 ac SA5.

Yn ogystal â gwella dibynadwyedd a chadernid y rhwydwaith, sy'n golygu y bydd y cysylltiad yn llai debygol o ollwng, bydd FTTP yn cynnig cysylltiad o un gigadid yr eiliad (1Gbps), sydd oddeutu 24 gwaith yn gyflymach na chyfartaledd y DU, sef 46Mbps.

Mae technoleg ffibr yn darparu mwy o allu ar gyfer dyfeisiau lluosog, y defnydd o declynnau clyfar a galwadau fideo di-dor. Bydd y cysylltiad ffibr yn diogelu dyfodol cartrefi a busnesau Abertawe  am ddegawdau i ddod, ac yn sicrhau bod y ddinas yn parhau i fod yn gystadleuol ar lwyfan genedlaethol ac ar lwyfan byd-eang.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mai 2024