Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am farc bar 'H' ar draws mynedfa gerbydau neu gerddwyr

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am farc bar 'H' ar gyfer y stryd rydych yn byw ynddi.

Os bydd llwybr cerdded o flaen y fynedfa, mae'n rhaid bod croesfan cerddwyr ffurfiol i farc bar 'H' gael ei ystyried.

Y ffi am y gwaith yw £90 gan gynnwys TAW. Peidiwch â thalu'r ffi hon nes bod eich cais wedi'i gymeradwyo.

Dylech fod yn ymwybodol bod y marc hwn yn bur ymgynghorol ac nid oes ganddo ystyr cyfreithiol. Os byddai cerbyd yn parcio drosto, byddai'n fater i'r heddlu ei orfodi. Fodd bynnag, os yw'r drosedd yn rheolaidd ac yn gyson, gall y cyngor weithredu'n amodol ar yr adnoddau sydd ar gael. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Chwefror 2024