Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant i yrwyr beiciau modur

Manylion cyrsiau diogelwch ffyrdd i feicwyr modur.

BikeSafe

Menter beiciau modur genedlaethol a gynhelir gan yr heddlu yw BikeSafe sydd â'r nod o weithio gyda beicwyr modur mewn amgylchedd hamddenol i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a gwerth mynd ymlaen i gyflawni hyfforddiant achrededig ar ôl y prawf.

Mae gweithdai BikeSafe yn cynnwys taith wedi'i harsylwi gan feiciwr modur o'r heddlu neu arsylwr cymeradwy BikeSafe.

Gydag ychydig o amrywiaeth lleol, bwriad gweithdai BikeSafe yw ymdrin â'r canlynol: agwedd y gyrrwr, dulliau systematig, achosiad gwrthdrawiadau, cornelu, lleoliad, goddiweddyd, arsylwi, brecio, sylwi ar beryglon a defnyddio gerau.

Dyddiadau yn 2025:

  • Dydd Sadwrn 24 Mai
  • Dydd Sul 25 Mai
  • Dydd Sadwrn 21 Mehefin
  • Dydd Sul 22 Mehefin
  • Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf
  • Dydd Sul 20 Gorffennaf
  • Dydd Sadwrn 16 Awst
  • Dydd Sul 17 Awst
  • Dydd Sadwrn 30 Awst
  • Dydd Sadwrn 13 Medi
  • Dydd Sul 14 Medi
  • Dydd Sadwrn 11 Hydref
  • Dydd Sul 12 Hydref

Ewch i https://bikesafe.co.uk/southwales (Yn agor ffenestr newydd) a nodwch gôd taleb SW-25 i gael lle am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru (mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim).

Cynhelir y cyrsiau ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y cyrsiau reidio beic modur sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mai 2025