Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwydwaith beicio oddi ar y ffordd gŵyr

Mae 27 cilometr o lwybrau yn mynd drwy rai o ardaloedd mwyaf golygfaol Gŵyr, gan ddilyn llwybrau ceffylau hynafol y mae rhai ohonynt wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd.

Mae golygfeydd trawiadol o Fynydd Rhosili a Bryn Llanmadog ar draws Bae Caerfyrddin i Ddinbych-y-pysgod, a Môr Hafren i ogledd Dyfnaint, gyda golygfeydd o Fannau Brycheiniog i'r gogledd.

Map

Map llwybrau beicio oddi ar y ffordd Gŵyr - Bryn Llanmadog a Mynydd Rhosili (PDF, 4 MB)

Amodau beicio

Mae'r llwybrau'n ddaear foel yn bennaf gyda rhai traciau metlin ac anwastad iawn, a chan eu bod yn croesi tri bryn, rhaid disgyn a dringo cryn dipyn. Yn y gaeaf bydd rhai o'r llwybrau'n mynd yn fwdlyd neu hyd yn oed yn gorsiog. Yn yr haf bydd y llwybrau'n sych ar y cyfan. Bydd angen beic a dillad addas arnoch ar gyfer yr amodau hyn.

Mae'r llwybrau oddi ar y ffordd yn bennaf, ond bydd angen beicio ar hyd rhai ffyrdd hefyd. Mae'r ffyrdd fel arfer yn dawel yn yr ardal hon ac eithrio yn ystod adegau gwyliau prysur, pan gallant fynd yn brysur iawn.

Ar rai llwybrau, mae'n annhebygol y dewch chi ar draws unrhyw un arall yn ystod eich taith, ond gall llwybrau eraill fod yn brysur, yn bennaf gyda cherddwyr ond weithiau gyda beicwyr eraill a marchogion ceffylau o bryd i'w gilydd. Rhaid i chi fod yn barod i rannu'r llwybrau - mae gan gerddwyr, beicwyr a marchogion i gyd yr hawl i ddefnyddio llwybrau ceffylau, ac yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion ar lwybrau ceffylau. Gweler y cyngor ar gyfer beicio yng nghefn gwlad isod.

Gwyliwch eich cyflymder - gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu stopio mewn pryd os oes rhywun neu rywbeth arall yn ymddangos yn sydyn ar y llwybr ceffylau gyda chi.

Parcio ceir

Mae meysydd parcio da yn Rhosili a Hillend, ac mae lleoedd parcio ychwanegol yn Llanmadog (gweler y map). Mae pob maes parcio'n codi tâl parcio, ond os ydych yn aelod o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gallwch barcio yn Rhosili am ddim. Defnyddiwch y meysydd parcio swyddogol; gall parcio wrth ochr y ffordd rwystro ffyrdd cul a mynediad i ffermydd, a difrodi ymyl y ffordd.

Toiledau

Mae toiledau ar gael i'r cyhoedd yn Rhosili a Hillend.

Cludiant cyhoeddus

Ar hyn o bryd does dim gwasanaeth bws rheolaidd sy'n derbyn teithwyr â beiciau, ac felly nid yw cysylltiadau cludiant cyhoeddus wedi'u cynnwys.

Cyngor ar gyfer beicio yng nghefn gwlad - gwnewch y peth iawn!

Mae'n bwysig parchu'n cefn gwlad a gofalu amdano, yn ogystal â'i fwynhau! Mae angen i bob un ohonom fod yn ddiogel ac wedi'n paratoi'n briodol wrth feicio yng nghefn gwlad.

Nid yw'r llwybrau y byddwch yn eu defnyddio'n cael eu galw'n 'llwybrau ceffylau' am ddim rheswm! Cawsant eu creu ganrifoedd cyn i feiciau gael eu dyfeisio, fel llwybrau a ddefnyddiwyd yn bennaf gan bynfeirch, marchogion a cherddwyr. Dim ond 50 mlynedd yn ôl y rhoddwyd hawliau i feicwyr eu defnyddio ac, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid iddynt ildio i ddefnyddwyr eraill, felly: 

Rhannwch gyda gofal a pharchwch ddefnyddwyr eraill!

Cwrdd â cherddwyr, marchogion a beicwyr eraill ar y llwybrau ceffylau

Gall fod yn beryglus i ddychryn ceffyl - i'r marchog, i'r ceffyl ac i chi. Gall cerddwyr a beicwyr eraill hefyd wneud pethau annisgwyl!

Wrth agosáu at farchog:

  1. Arafwch
  2. Gwnewch yn siŵr ei fod yn eich clywed - canwch eich cloch a/neu dywedwch helô'n gwrtais
  3. Byddwch yn hyderus ei fod wedi'ch gweld cyn mynd heibio iddynt

Ar gyfer cerddwyr a marchogion

  1. Os yw'r llwybr yn gul, dylech fod yn barod i ildio neu ddod oddi ar eich beic
  2. Byddwch yn gwrtais - daliwch ati i wenu!
  3. Rhowch 'ddiolch' neu gyfarchiad cyfeillgar wrth fynd heibio iddynt

Tir fferm a da byw

Pan fyddwch yn dod ar draws gwartheg, defaid a merlod: 

  1. Arafwch
  2. Rhowch amser iddynt glirio'r llwybr
  3. Cadwch bellter diogel - yn enwedig oddi wrth wartheg â lloi gan y gallant ymateb yn ymosodol
  4. Os yw eich ci allan gyda chi, peidiwch â mynd i mewn i gaeau lle mae ŵyn, lloi ac anifeiliaid ifanc eraill
  5. Gadewch glwydi fel yr oeddent pan ddaethoch ar eu traws

Gofalu am gefn gwlad

  1. Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi neu ei roi mewn bin/ei ailgylchu
  2. Safleoedd sensitif - cadwch at y llwybrau mewn ardaloedd o bwysigrwydd ecolegol neu archeolegol
  3. Mae'n bwrw glaw weithiau yng Nghymru! - ceisiwch osgoi tir gwlyb, corsiog neu feddal a chorddi'r wyneb

Diogelwch

Mae diogelwch yn hollbwysig mewn ardaloedd anghysbell gan efallai na fydd cymorth yn agos wrth law. Mae'n bwysig gallu dod o hyd i'r ffordd a bod yn ymwybodol o ganlyniadau posib torri i lawr neu ddamwain. Nid llwybrau pwrpasol yw'r rhain ac nid ydynt wedi'u lefelu, felly mae'n bwysig:

  • cynllunio'ch taith i weddu i'ch galluoedd
  • gwisgo'r offer cywir ar gyfer yr amodau
  • bod yn hyblyg a sicrhau bod gennych gynllun amgen os bydd angen i chi droi'n ôl/dargyfeirio
  • eich bod yn mynd â'r hyn sydd ei angen arnoch gyda chi - bwyd a dŵr, tiwb mewnol sbâr, pecyn cymorth, pecyn cymorth cyntaf, dillad ychwanegol
  • sicrhau bod eich beic mewn cyflwr da
  • rhoi gwybod i'ch ffrindiau neu'ch teulu ble rydych chi'n mynd a pha amser i'ch disgwyl yn ôl
  • bod yn ofalus wrth groesi ffyrdd neu deithio ar eu hyd - edrychwch cyn croesi!
  • ystyriwch lawrlwytho'r ap 'what3words', i helpu'r gwasanaethau brys i ddod o hyd i chi.

Llwybrau beicio oddi ar y ffordd eraill

Mae'r llwybrau a ddangosir yma'n ddetholiad o lwybrau ceffylau yn ardal Gŵyr. 

Gweler hefyd:

Cysylltu â ni

Os ydych yn cael problemau ar y llwybrau ceffylau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus, cysylltwch â'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad.

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru ac a gefnogir gan Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yng Nghyngor Abertawe. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Chwefror 2025