Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae fy nhâl parcio wedi cael ei drosglwyddo i feili - beth sy'n digwydd nesaf?

Mae opsiynau ar gael i chi o hyd, hyd yn oed pan fo'ch achos tâl am barcio wedi'i drosglwyddo i feili.

Os caiff eich achos ei drosglwyddo i'r beilïau, mae'n rhy hwyr erbyn hyn i apelio yn erbyn amgylchiadau'r tocyn.

Gallwch:

  • Dalu'r swm llawn i'r asiant gorfodi (beili)
  • Gofyn i'r beili am gynllun talu (gellir ychwanegu costau os collwch daliad)
  • Ffonio'r Ganolfan Gorfodi Traffig (CGT) ar 0300 123 1059 a gofyn am gyflwyno Datganiad Tyst Heibio i'r Terfyn Amser - cewch gyflwyno'r datganiad hwn os na ddilynwyd y gweithdrefnau'n gywir yn unig

Canolfan Gorfodi Traffig (CGT)

Os ydych am ddewis opsiwn 3 a chysylltu â'r CGT, anfonir ffurflen TE7:TE9 atoch drwy e-bost neu'r post. Dim ond pan fyddwch yn dychwelyd y ffurflen hon i'r CGT a hysbysu'r cyngor y gall yr achos gael ei ohirio gan yr asiant gorfodi nes yr ymdrinnir â'r mater.

Ar ffurflen TE7:TE9, mae'n rhaid i chi dicio un o bedwar blwch sy'n dangos na ddilynwyd y gweithdrefnau'n gywir. Os ydych yn cyflwyno ffurflen TE7:TE9 i'r Ganolfan Gorfodi Traffig, rhowch gymaint o wybodaeth ag y bo modd am eich amgylchiadau, i'n galluogi i ystyried eich rhesymau.

Canlyniadau posib:

Mae dau ganlyniad wrth gyflwyno ffurflen TE7/TE9.

  1. Bydd y TEC yn trosglwyddo'r achos yn ôl i'r beili i barhau i adennill yr arian sy'n ddyledus ar gyfer y tocyn parcio, neu
  2. Bydd yr achos yn cael ei ddychwelyd atom (y cyngor) i ddelio â chi'n uniongyrchol.

Os nad ydych yn fodlon ar y canlyniad gan y Ganolfan Gorfodi Traffig

Os nad ydych yn fodlon ar eich canlyniad TE7/TE9 y penderfynwyd arno gan y Ganolfan Gorfodi Traffig, mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad ar ei llythyr atoch i ofyn am adolygiad o'ch achos gan farnwr rhanbarth. Bydd ffi'n berthnasol os ydych chi am i'ch achos gael ei adolygu.

Os na chymerwch gamau gweithredu, caiff costau eu hychwanegu a gall eich cerbyd gael ei glampio a'i halio i'r pownd, neu caiff nwyddau eu hadennill o'ch eiddo i dalu'r ddyled.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Gorffenaf 2023