Toglo gwelededd dewislen symudol

Benthyciadau perchen-feddianwyr Llywodraeth Cymru

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig benthyciadau di-log i helpu perchnogion cartrefi i wneud atgyweiriadau i'w cartrefi i'w gwneud yn ddiogel ac yn gynnes.

Gall unigolion a chwmnïau gyflwyno cais am fenthyciad, fodd bynnag rhoddir blaenoriaeth i berchnogion preswyl.

Uchafswm y benthyciad fydd £25,000 yr eiddo ac ar yr amod nad oes diffyg ar y benthyciad, bydd yn ddi-log. Gellir talu'r benthyciadau dros gyfnod rhandaliadau misol hyd at fis Mawrth 2029.

Bydd benthyciadau'n destun prawf fforddiadwyedd i gadarnhau bod gan yr ymgeisydd ddigon o incwm i ad-dalu'r benthyciad. Ar gyfer perchen-feddianwyr ar incwm isel na allant fforddio benthyciad ad-dalu, gallant gael eu hasesu am gymhwysedd ar gyfer cymorth benthyciad ariannol ad-daladwy i berchen-feddianwyr, y bydd yn rhai ei ad-dalu pan gaiff yr eiddo'i werthu neu ei drosglwyddo yn y dyfodol. Gyda'r benthyciad hwn, cyfyngir y gwaith i atgyweiriadau brys yn unig.

Er bod y benthyciad yn ddi-log, codir ffi weinyddol i dalu am gost prosesu'r ceisiadau. Mae hyn yn cynnwys cost syrfëwr yn asesu'ch eiddo i gadarnhau pa waith y mae angen ei wneud, paratoi amserlen waith a phrisio'r gwaith, penodi contractwr, goruchwylio'r gwaith a thalu amdano.

Mae cynllun benthyciadau perchen-feddianwyr llywodraeth cymru a chymorth ariannol ad-daladwy i berchen-feddianwyr yn cynnig benthyciadau di-log i helpu i wella cyflwr tai yn y sector preifat. Mae benthyciadau ar gael i berchen-feddianwyr i'w galluogi i adnewyddu a gwella eiddo unigol neu addasu eiddo gwag fel eu bod yn addas i'w defnyddio fel llety preswyl gan y perchennog tŷ.

Gwiriwch y bydd y benthyciad hwn yn diwallu'ch anghenion os ydych am i'ch teulu neu bobl eraill etifeddu'ch cartref, gan y codir tâl cyfreithiol ar deitl eich eiddo. Os ydych yn amheus, gofynnwch am gyngor cyfreithiol ac ariannol annibynnol.

Pwy sy'n gymwys

  • Perchen-feddianwyr eiddo israddol, ac eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis. Bydd yn rhaid i'r perchen-feddiannydd fyw yn yr eiddo fel perchen-feddiannydd drwy gydol cyfnod y benthyciad.
  • Mae'n rhaid i unigolion sy'n gwneud cais am fenthyciadau fod yn berchnogion presennol neu'n ddarpar berchnogion. Mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi'i gofrestru yn enw'r ymgeisydd cyn y gall y benthyciad gael ei gymeradwyo.
  • Caiff pob benthyciad ei sicrhau drwy roi tâl ariannol ar yr eiddo.
  • Mae'n rhaid i'r eiddo fod dros 10 oed.
  • Ni all y gymhareb benthyciad i werth fod yn fwy nag 80%.
  • Bydd perchen-feddianwyr sy'n cyflwyno cais am fenthyciad yn destun prawf fforddiadwyedd, a bydd angen digon o incwm arnynt i fforddio'r ad-daliadau. Bydd swm y benthyciad y gellir ei roi'n dibynnu ar swm yr incwm gwario sydd ar gael i'r ymgeisydd ad-dalu ad-daliadau misol y benthyciad. Ni fydd yr ad-daliad misol uchaf ar gyfer y benthyciad yn uwch na 50% o incwm gwario'r ymgeisydd fesul mis.
    • Gall y perchen-feddianwyr hynny y bernir nad ydynt yn gallu fforddio'r benthyciad yn ystod y cam prawf fforddiadwyedd wneud cais am gymorth ariannol ad-daladwy i berchen-feddianwyr, os bernir eu bod yn gymwys.

Math o waith sy'n cael ei gynnwys

  1. Gwelliannau i safon ac ansawdd cyffredinol y llety i'w wneud yn gynnes neu'n ddiogel - dylai gwaith wella safon yr eiddo fel ei fod yn addas i bobl fyw ynddo.
  2. Gwaith i newid eiddo gwag neu adeilad masnachol yn un neu fwy o unedau i safon resymol fel y gall perchen-feddiannydd fyw yno'n syth.

Dim ond ar gyfer perchnogion tai ar incwm isel na allant fforddio benthyciad ad-dalu misol y mae cymorth ariannol ad-daladwy i berchen-feddianwyr ar gael. Mae gwaith cymwys yn cynnwys:

  • gwaith atgyweirio brys i ddatrys problemau dadfeilio difrifol gan gynnwys cael gwared ar beryglon y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS). Bydd gwaith yn cael ei gyfyngu i unioni problemau dadfeilio difrifol.

Symiau, cyfnodau a ffïoedd benthyciadau

  • Y benthyciad lleiaf fydd £1,000, y benthyciad mwyaf fydd £25,000 yr eiddo, gan gynnwys ffïoedd.  
  • Uchafswm tymor y benthyciad: pob benthyciad i'w ad-dalu erbyn diwedd mis Mawrth 2029.
  • Bydd y benthyciadau'n ddi-log.
  • Ar gyfer benthyciadau perchen-feddianwyr, codir ffi weinyddol untro o £500  (a TAW) ar yr ymgeisydd i dalu costau prosesu ceisiadau - gellir talu'r ffi ymlaen llaw neu ei chynnwys yn y benthyciad.
  • Ar gyfer cymorth ariannol ad-daladwy i berchen-feddianwyr, codir ffi weinyddol untro o £250 (a TAW) ar yr ymgeisydd i dalu costau prosesu ceisiadau - gellir talu'r ffi ymlaen llaw neu ei chynnwys yn y benthyciad.
  • Caiff benthyciadau perchen-feddianwyr eu had-dalu mewn rhandaliadau misol.
  • Benthyciad gydol oes yw'r benthyciad cymorth ariannol ad-daladwy i berchen-feddianwyr, y gellir ei ad-dalu fel cyfandaliad wrth werthu neu drosglwyddo'r eiddo.

Amodau cyffredinol

  • Ni fydd y gymhareb benthyciad i werth yn fwy nag 80%.
  • Ni ddylai fod gan ymgeiswyr unrhyw ddyledion heb eu talu i'r cyngor ar adeg gwneud cais neu hanes credyd gwael a all gynnwys dyfarniadau llys sirol, trefniadau gwirfoddol unigol (TGU), gorchmynion rhyddhau dyled, methdaliad (o fewn y 6 blynedd diwethaf), methdaliad/diddymiad cwmni. 
  • Cytunir ar raglen waith a'r ymgeisydd cyn cynnig unrhyw fenthyciad a bydd hyn yn rhan o'r amodau benthyg
    • Lle y bo'n briodol, bydd angen caniatâd Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu ar gyfer y gwaith arfaethedig.
  • Gofynnir i ymgeiswyr mewn amgylchiadau arferol gael dau ddyfynbris ar gyfer y gwaith arfaethedig a chysylltu â'u contractwyr eu hunain pan gaiff y benthyciad ei gymeradwyo gennym.
  • Ar ôl i'r benthyciad gael ei gymeradwyo, fe'i telir mewn taliadau dros dro a thrwy brisiad gan swyddogion ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.

Ni fydd cymorth benthyciadau ar gael ar gyfer y canlynol:

  • eiddo nad ydynt yn rhai parhaol fel cychod preswyl a charafanau.  
  • adeileddau sydd heb gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.
  • adeiladau nad ydynt yn addas i'w newid yn anheddau y gellir byw ynddynt.

Gwneud cais am fenthyciad perchen-feddianwyr Llywodraeth Cymru Gwneud cais am fenthyciad perchen-feddianwyr Llywodraeth Cymru

Gwneud cais am fenthyciad perchen-feddianwyr Llywodraeth Cymru

Llenwch y ffurflen hon i wneud cais am y benthyciad.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2024