Benthyciad Homefix
Mae'r benthyciad Homefix yn fenthyciad di-log gwarantedig i berchnogion a chanddynt ecwiti yn eu heiddo ond na allant fforddio ad-daliadau misol ar fenthyciad.
Mae gennym brosesau ar waith i sicrhau eich bod yn benthyca canran gyfyngedig o werth eich eiddo nad yw eisoes wedi'i sicrhau drwy unrhyw forgais neu fenthyciadau eraill sydd gennych yn unig.
Pwy sy'n gallu gwneud cais?
- unrhyw berchennog tŷ dros 60 oed ac sy'n derbyn budd-dal prawf modd neu incwm isel (ar sail prawf modd)
- unrhyw berchennog tŷ dros 18 oed sy'n derbyn budd-dal anabledd ac sy'n derbyn budd-dal prawf modd neu incwm isel (ar sail prawf modd)
- mae'n rhaid i chi fod yn berchen ar y tŷ ac yn byw yno ers 3 blynedd, ac mae'n rhaid i'r adeilad fod dros 10 mlwydd oed
- rhaid bod ecwiti ar gael ar eich eiddo er mwyn cyflwyno cais
- rhaid bod gennych chi neu ar y cyd â'ch partner lai na £16,000 o gynilion
Gwaith ac atgyweiriadau cymwys
Bydd gwaith cymwys yn eitemau i'w trwsio sy'n ofynnol i alluogi'r preswylydd i fyw mewn cartref di-berygl ac o safon. Byddant yn cael eu nodi gan syrfëwr swyddogion y cyngor ac yn cael eu cytuno gan yr ymgeisydd. Y ffocws fydd cwblhau gwaith atgyweirio ac adnewyddu er mwyn sicrhau bod yr eiddo'n cydymffurfio â safonau rhesymol a sicrhau nad oes eitemau yn y tŷ sydd mewn cyflwr difrifol neu beryglus.
Bydd gwaith a wneir drwy fenthyciad Homefix yn cael ei weinyddu gan y Cyngor fel asiant ar ran yr ymgeisydd.
Os ydych yn gymwys byddwn yn trefnu i un o'n swyddogion wneud apwyntiad i lenwi'r ffurflen gais ac egluro'r broses i chi.
Ar ôl i chi gytuno i'r gwaith, byddwn yn cysylltu â'r adran gyfreithiol a'r prisiwr i gadarnhau unrhyw fenthyciadau gwarantedig ar eich eiddo a gwerth cyfredol yr eiddo er mwyn i ni benderfynu faint o fenthyciad i'w gynnig. Os byddwch yn tynnu'n ôl o'r broses bryd hynny, mae'n bosib y byddwch yn gorfod ad-dalu ffïoedd i ni.
Bydd angen i chi gytuno ar swm y benthyciad a chytuno i'r tâl sy'n cael ei roi ar eich cofnod cofrestrfa tir.
Ar ôl i'r benthyciad gael ei sicrhau, byddwn yn trefnu i'r gwaith gael ei wneud a byddwn yn talu'r adeiladwyr pan fyddwn yn fodlon ar ansawdd y gwaith.
Symiau benthyciad
Y benthyciad lleiaf fydd £3,000.
Mae'r uchafsymiau'n dibynnu ar yr ecwiti ond hyd at £30,000 (ynghyd â ffïoedd) ar gwblhau'r gwaith a bennir drwy ddefnyddio bandiau eiddo a chanrannau gosodedig i gyfrifo'r ecwiti y gall y cleient fenthyca yn ei erbyn fel a nodir isod:
- eiddo o dan £80,000: 50% o'r ecwiti rhydd
- eiddo rhwng £80,000 a £120,000: 40% o'r ecwiti rhydd
- eiddo dros £120,000: 30% o'r ecwiti rhydd
Mewn achosion arbennig o gyflwr difrifol, lle na fyddai'n briodol gadael y tŷ wedi'i atgyweirio'n rhannol (er enghraifft gwaith a gwblhawyd a allai ddirywio, neu adael y tŷ mewn cyflwr anniogel) mae'n bosib cynyddu uchafswm y benthyciad i £35,000 (ynghyd â ffïoedd), yn ôl disgresiwn y cyngor.
Ad-daliad
Caiff y benthyciad ei gofrestru yn dâl cyfreithiol i'w ad-dalu wrth werthu neu drosglwyddo'r teitl, (neu os bydd yr ymgeisydd yn symud i ofal tymor hir neu lety lloches), a'i gyfrif fel swm y benthyciad gwreiddiol a roddwyd wedi'i ddidynnu o bris y gwerthu ar adeg yr adbryniant. I ymgeiswyr ar y cyd, bydd y benthyciad yn daladwy ar farwolaeth y benthyciwr olaf i oroesi (neu os bydd y benthyciwr olaf i oroesi yn symud i ofal tymor hir neu lety lloches).
Mae'r benthyciadau Homefix a ddarperir gennym wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer perchnogion cartrefi nad ydynt efallai'n gallu cael benthyciad gan fanc neu gymdeithas adeiladu ar y stryd fawr. Mae'r holl becynnau benthyciadau a gynigir gennym yn seiliedig ar amgylchiadau unigol.
Cofiwch wirio a fydd y benthyciad yma'n addas i'ch anghenion os ydych am symud neu werthu'ch cartref neu os ydych am i'ch teulu ei etifeddu. Os nad ydych yn siŵr, dylech geisio cyngor annibynnol.