Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw Tirwedd Genedlaethol?

Mae Tirwedd Genedlaethol Gŵyr wedi'i dynodi'n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae ei naws unigryw a'i harddwch naturiol mor werthfawr fel y caiff ei gwarchod er budd y genedl.

Mae hon yn bennod newydd yn stori Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) dynodedig Cymru a Lloegr.

Mae'r enw newydd yn adlewyrchu ein pwysigrwydd cenedlaethol: y cyfraniad hanfodol a wnawn i amddiffyn y genedl rhag bygythiadau newid yn yr hinsawdd, dirywiad natur a'r argyfwng lles, tra hefyd yn creu gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o waith y teulu cyfan o dirweddau cenedlaethol. 

Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i'r DU a dyma'r cam nesaf ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth yn llawn i fod yn esiampl flaenllaw o ran sut gall cymunedau ffyniannus ac amrywiol weithio gyda natur yn y DU ac ar ei gyfer: adfer ecosystemau, darparu bwyd, storio carbon i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, diogelu rhag sychder a llifogydd, tra hefyd yn meithrin iechyd a lles pobl.

Mae Tirweddau Cenedlaethol yn lleoedd y mae pobl yn byw ynddynt ac yn gweithio ynddynt ac yn dod iddynt er mwyn anadlu. Dyma'r mannau lle mae ein straeon yn dod yn fyw.  

Dewch i ddarganfod stori tirweddau cenedlaethol y DU a chael rhagor o wybodaeth am y gwaith maent yn ei wneud yn Tirwedd Genedlaethol (national-landscapes.org) (Yn agor ffenestr newydd) a dilynwch facebook.com/natlandassoc (Yn agor ffenestr newydd), @natlandassoc (instagram.com) (Yn agor ffenestr newydd) a @natlandassoc (x.com) (Yn agor ffenestr newydd).

I ddarganfod mwy am ein stori, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Tirwedd Genedlaethol Gŵyr (facebook.com) (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith