Toglo gwelededd dewislen symudol

Tirwedd Genedlaethol Gŵyr - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gŵyr - bro ar wahân...

... tirwedd werthfawr y mae ei naws unigryw a'i harddwch naturiol mor eithriadol fel ei bod yn cael ei diogelu i genedlaethau'r dyfodol ...

Tirwedd Genedlaethol Gŵyr - logo llorweddol.
Fe'i dynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ym 1956 ar gyfer ei harfordir calchfaen clasurol a'r cynefinoedd naturiol amrywiol. Hon oedd yr ardal gyntaf o'i bath i'w dynodi yn y DU. Bellach rydym yn rhan o deulu o 46 AoHNEau ac 13 parc cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae golygfeydd godidog ac amrywiol Gŵyr yn cynnwys twyni a morfeydd heli brau yn y gogledd a chlogwyni calchfaen trawiadol ar hyd arfordir y de, wedi'u gwahanu gan draethau tywod. Y tu mewn i'r tir, ceir tirwedd o gaeau bach traddodiadol, dyffrynoedd coediog a thiroedd comin agored, i gyd yng nghysgod bryniau Cefn Bryn a Mynydd Rhosili.

Gyda thraethau arobryn, arfordir trawiadol, rhosydd tonnog a phentrefi traddodiadol wedi'u cysylltu gan lonydd bach, mae Gwyr yn lle delfrydol i ymlacio ac adfer eich egni.

Gŵyr - rheolaeth drwy bartneriaeth

Mae tîm Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda'r holl rai sy'n byw, yn gweithio ac yn rheoli'r tir yng Ngŵyr.

Gŵyr - datblygu cynaliadwy

Mae Partneriaeth yr Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yn gweithredu cynllun grantiau bach sydd â'r nod o ddatblygu a phrofi ffyrdd o gyflawni ffordd fwy cynaliadwy o fyw ym mhenrhyn Gŵyr.

Cysylltu â'r Tirwedd Genedlaethol Gŵyr Genedlaethol.

Mae Dinas a Sir Abertawe'n cyflogi tîm bach i roi Cynllun Rheoli'r Tirwedd Genedlaethol Gŵyr ar waith a chefnogi'r Bartneriaeth Tirwedd Genedlaethol Gŵyr.

Ffynonellau eraill o wybodaeth am benrhyn Gŵyr

Gallwch ddefnyddio'r dolenni hyn i ddarganfod hyd yn oed mwy am Benrhyn Gŵyr.

Beth yw Tirwedd Genedlaethol?

Mae Tirwedd Genedlaethol Gŵyr wedi'i dynodi'n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae ei naws unigryw a'i harddwch naturiol mor werthfawr fel y caiff ei gwarchod er budd y genedl.

Prosiect cael gwared ar iorwg Castell Pennard

Mae Castell Pennard sy'n edrych dros Bae y Tri Chlogwyn yn un o ddelweddau mwyaf adnabyddus Gŵyr. Clwb Golff Pennard sy'n berchen ar ac yn rheoli'r castell fel Heneb Gofrestredig.
Close Dewis iaith