Toglo gwelededd dewislen symudol

Bioamrywiaeth a Datblygiad

Mae'r ddogfen hon yn darparu arweiniad ynghylch cryfhau polisïau ER6, ER8 ac ER9 y CDLl, ac yn darparu eglurder ar y dehongliad o'r polisïau hynny er mwyn sicrhau bod datblygiadau yn Abertawe'n cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth y sir ac yn darparu ecosystemau cadarn tymor hir. Mae hyn yn cyd-fynd â dyletswyddau'r cyngor o dan A6 o Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016 a nod Cymru Gydnerth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, ac mae'n gyson â Pholisi'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol).

Mabwysiadwyd y CCA gan y Pwyllgor Cynllunio ar 22 Chwefror 2021 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn ddrafft. Gallwch lawrlwytho copi o'r adroddiad ymgynghori cyhoeddus sy'n nodi'r broses a ddilynwyd yn y cyfnod cyn mabwysiadu fersiwn derfynol y CCA isod.

Ymagwedd fesul cam at ystyried bioamrywiaeth yn y broses gynllunio - Dylai pob cynnig ddilyn yr ymagwedd fesul cam a nodwyd yn y CCA. Mae'r ymagwedd fesul cam yn arwain ymgeiswyr ar sut i ystyried bioamrywiaeth ar bob cam o'r broses rheoli datblygu. Mae'n darparu'r fframwaith i ddangos bod cynigion wedi ymateb i ddealltwriaeth ecolegol gref o'r safle, ac y bydd lliniariad, iawndal, gwella ac ôl-ofal ecolegol priodol yn cael eu darparu.

Ecological Surveys and Assessments:  SPG Appendix 1provides detailed guidance on the species, habitats and sites which are likely to affect a variety of types, scales and locations of applications for development in Swansea, including guidance on

  • Terrestrial Protected and Priority Species Surveys Checklist
  • Terrestrial Ecological Survey Seasons
  • S7 Marine/Coastal/Estuarine Species and Habitats Checklist
  • Legal & Policy Framework re Protection of Sites and Species in Swansea

Arolygon Ecolegol ac Asesiadau:Mae Atodiad 1 y CCA yn darparu canllawiau manwl ar y rhywogaethau, y cynefinoedd a'r safleoedd sy'n debygol o effeithio ar amrywiaeth o fathau a meintiau o geisiadau datblygu yn Abertawe a'u lleoliadau, gan gynnwys canllawiau ar

  • Restr wirio ar gyfer Arolygon Rhywogaethau Daearol a Warchodir ac â Blaenoriaeth
  • Tymhorau ar gyfer cynnal Arolygon Ecolegol a Daear
  • S7 - Rhestr Wirio ar gyfer Rhywogaethau a Chynefinoedd Morol/Arfordirol/Aberol
  • Fframwaith Cyfreithiol a Pholisi mewn perthynas â Gwarchod Safleoedd a Rhywogaethau yn Abertawe

Bioamrywiaeth a Datblygiadau Mawr, Bach ac Eraill - Mae'r CCA yn cydnabod y dylai ymgeiswyr ddarparu mesurau mewn perthynas â bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau sy'n gymesur â maint y datblygiad. Mae Atodiadau 2, 3 a 4 y CCA yn rhoi rhagor o arweiniad.

Mae Tîm Cadwraeth Natur y cyngor yn ymgynghorai yn y broses ceisiadau cynllunio a bydd yn darparu cyngor i'r Tîm Rheoli Datblygu mewn perthynas â materion bioamrywiaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/bioamrywiaeth

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Ebrill 2023