Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
Mae'r cyngor yn llunio Canllawiau Atodol (CCA) ar amrywiaeth eang o faterion datblygu. Mae'r rhain yn darparu rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr a phenderfynwyr am sut y caiff polisïau Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl) eu defnyddio. Dylid darllen a deall dogfennau CDLl er mwyn sicrhau bod cynigion datblygu'n cydymffurfio â fframwaith polisi cynllunio'r cyngor
Canllawiau Cynllunio Atodol a Fabwysiadwyd:
Ers mabwysiadu'r CDLl ym mis Chwefror 2019 mae'r cyngor wedi mabwysiadu'r CCA canlynol:
- Tai Amlfeddiannaeth (HMO) a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr
- Bioamrywiaeth a Datblygiad
- Ardal gadwraeth Treforys - Adolygiad wedi'i gwblhau
- Ardal gadwraeth Ffynone ac Uplands - Adolygiad wedi'i gwblhau
- Adolygiad o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls - Adolygiad wedi'i gwblhau
- CCA Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd
- Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer AoHNE Gŵyr
- Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl
- Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn
- Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Deiliaid Tai
- Addasu Adeiladau Gwledig Traddodiadol
Mabwysiadwyd y CCA canlynol gan y cyngor cyn mabwysiadu CDLl Abertawe yn ffurfiol, fodd bynnag maent yn parhau i fod yn ganllawiau dilys a phwysig i lywio penderfyniadau cynllunio o ystyried:
- eu bod yn cyd-fynd yn sylfaenol â pholisi'r CDLl ac yn darparu canllawiau defnyddiol i gadarnhau sut mae'r cyngor o'r farn y dylid dehongli nodau ac amcanion polisi'r CDLl
- y cyfeirir atynt yn y CDLl mabwysiedig fel dogfen ategol
- eu bod yn gyson â chanllawiau cenedlaethol ac egwyddorion cyffredinol creu lleoedd
- eu bod wedi'u cymeradwyo'n gymharol ddiweddar yn dilyn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghori â'r cyhoedd
- Rhwymedigaethau Cynllunio (PDF, 799 KB)
- Canllaw Dylunio Blaenau Siopau a Thu Blaenau Masnachol (PDF, 3 MB)
- Strategaeth Adeiladau Uchel (PDF, 4 MB)
- Canolfannau Rhanbarthol, Canolfannau Lleol a Chyfleusterau Cymunedol (PDF, 3 MB)
- Cynllunio ar gyfer Diogelwch Cymunedol (PDF, 793 KB)