Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllawiau Cymru ar gyfer cymeradwyaeth corff o bersonau (BOPA)

O dan Adran 37(3)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiad a roddir o dan drefniadau a wneir gan 'gorff o bersonau' a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol lle mae'r perfformiad yn digwydd, neu o dan rai amgylchiadau eithriadol, gan Lywodraeth Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Beth yw BOPA?

Y peth cyntaf i'w egluro i sefydliadau sy'n gwneud cais am gymeradwyaeth corff o bersonau ac awdurdodau lleol sy'n rhoi BOPA yw na ddylid ystyried BOPA yn ffordd o 'osgoi' y gofyniad am drwydded berfformio. Bydd gwneud cais am BOPA a'i rhoi yn lleihau'r baich gweinyddol ar bawb o dan sylw; serch hynny, mae'r un egwyddorion yn berthnasol o ran diogelu'r plentyn a sicrhau bod darpariaeth briodol i'w chael i ddiogelu eu hiechyd ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn iawn. Mae'n rhaid sicrhau nad yw'r trefniadau diogelu yn gwanhau.

Mae BOPA, os caiff ei rhoi, yn cael gwared a'r angen i wneud cais am drwydded unigol ar gyfer pob plentyn; fe'i rhoddir i'r sefydliad sy'n gyfrifol am y perfformiad. Rhoddir y gymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol lle mae'r perfformaid yn digwydd; gall yr awdurdod lleol roi'r gymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw'r plant sy'n cymryd rhan yn byw o fewn ei ffiniau. Y sefydliad sy'n cael ei gymeradwyo, nid y plant h.y. mae'r awdurdod lleol yn cadarnhau bod y grwp neu'r sefydliad yn grwp 'addas' neu 'gymeradwy' ac felly mae'n rhaid iddynt fod yn sicr eu bod hwy (yr ALI) wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y grwp yn grwp addas.

Gellir rhoi BOPA i sefydliad ar gyfer un perfformiad neu ar gyfer cyfres o berfformiadau o fewn cyfnod penodol ar yr amod na wneir unrhyw daliad i'r plentyn nac i unrhyw un arall sy'n gysylltiedig a'r plentyn sy'n cymryd rhan yn y perfformiad ac nad oes angen i'r plentyn fod yn absennol o'r ysgol. Gweler Adran 7 'Absenoldeb o'r ysgol' am ragor o fanylion.

Ni ellir trosglwyddo BOPA i sefydliad arall nac i blant unigol sy'n cymryd rhan mewn perfformiad a drefnir gan rywun arall. Ni ellir rhoi BOPA mewn perthynas a gweithgaredd.

Nid yw BOPA yn 'drwydded grwp' ac nid yw'n esemptiad o dan y rheol 4 diwrnod.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw fath o sefydliad wneud cais am BOPA h.y. grwp amatur, cwmni proffesiynol, theatr neu gwmni darlledu ar yr amod na wneir taliad (heblaw treuliau) i'r plentyn am gymryd rhan. Fodd bynnag, bydd gofyn iddynt fodloni rhai meini prawf a dangos bod ganddynt bolisiau a threfniadau diogelu clir, cadarn sydd wedi'u llwyr ymgorffori ar gyfer amddiffyn plant. Bydd hyn yn llywio penderfyniad yr awdurdod lleol, a'u penderfyniad hwy yw p'un a ddylid rhoi cymeradwyaeth ai pedio.

Gwyliau (dawns, drama, cerdoriaeth, llafar) a 'chystadlaethau'

Ers cyflwyno Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 a'r canllawiau ategol, mae'n amlwg fod rhai perfformiadau a oedd yn arfer cael eu hanwybyddu, yn anghywir, yn rhan o gwmpas y system drwyddedu perfformiad.

Mae nifer o drefnwyr gwyliau wedi dadlau y dylent gael eu heithrio rhag trwyddedu oherwydd yr 'elfen addysgol' sydd i'w chael yn eu gwyliau. Nid yw trefnwyr gwyliau yn ysgol ac o'r herwydd ni ellir eithrio'r wyl o dan adran 37(3)(b) o Ddeddf 1963. Dylai trefnwyr gwyliau gael gwybod y bydd llywodraeth Cymru yn cadarnhau eu bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth perfformiadau plant. (Gweler  Cadw Perfformwyr Ifanc yn Ddiogel, dogfen ganllawiau Llywodraeth Cymru 192/2015 (PDF) [504KB]).

1.5 Efallai na fydd angen trwydded ar berfformiad:

a)  os yw'n cael eu drefnu gan ysgol - sefydliad addysgol sy'n darparu addysg gynradd neu uwchradd, yn hytrach nag ysgol ddawns neu debyg; ac

b)  os yw'r ysgol yn gyfrifol am gynhyrchu'r perfformiad, a allai gynnwys plant o'r ysgol honno neu ysgol arall.

Dylid nodi hefyd na ddywedir yn unrhyw le yn y ddeddfwriaeth berfformio bod 'cystadlaethau' wedi'u heithrio rhag trwyddedu.

Os yw perfformiad/digwyddiad yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf a nodir yn adran 37(2) o Ddeddf 1963, mae'n dod o dan ddeddfwriaeth drwyddedu perfformiadau plant, ni waeth beth yw'r enw a roddir i'r digwyddiad e.e. gwyl, cystadleuaeth, gala ac ati. Nodwch fod 'tal mynediad neu fel arall' yn cynnwys taliad i gymryd rhan yn y digwyddiad.

Yn y rhan fwyaf o achosion, y ffordd fwyaf priodol i drefnwyr y mathau hyn o ddigwyddiadau fynd ati yw gwneud cais i'r awdurdod lleol lle mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal am Gymeradwyaeth Corff o Bersonau.

Mae nifer y gwyliau a digwyddiadau tebyg a gynhelir ledled Cymru a Lloegr bob blwyddyn yn sylweddol, a gallant fod yn llwyth gwaith sylweddol i swyddogion trwyddedu. Wrth ddelio a digwyddiadau o'r fath (gyda llawer ohonynt yn cynnwys cannoedd o blant sy'n cymryd rhan dros nifer of ddyddiau ac wythnosau) mae'n hanfodol fod awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar y trefniadau diogelu sydd gan y trefnwyr ar waith fel y nodwyd uchod. Ni ddylai'r swyddog trwyddedu fynnu bod gwybodaeth yn cael ei hanfon i'r awdurdod lleol os nad yw'n llywio eu penderfyniad i roi cymeradwyaeth yn uniongyrchol.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Llywodraeth Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol roi BOPA. Ceir cyngor o'r canllawiau priodol isod:

Mae Cyngor Llwyodraeth Cymru 1.12 yn nodi'r canlynol:

  • Os yw cais am gymeradwyaeth dorfol yn cynnwys nifer fawr o blant dros nifer sylweddol o ardaloedd awdurdodau lleol, mewn rhai amgylchiadau gallai Gweinidogion cymru ystyried y cais. Ond yn y mwyafrif o achosion mae awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i farnu'r anghenion a'r trefniadau ar gyfer diogelu'r plant dan sylw ac ni fyddai Gweinidogion cymru'n disgwyl derbyn ceisiadau'n rheolaidd.

Mae Cyngor yr Adran Addysg 1.3.7 yn nodi'r canlynol:

  • Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gallu i roi BOPA, ond yn gyffredinol, ni fyddant yn ystyried ceisiadau. Mae hyn oherwydd bod awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i asesu trefniadau a wneir i ddiogelu plant mewn gweithgareddau lleol, i archwilio'r trefniadau hynny ac i orfodi unrhyw ofynion neu amodau a fwriedir i amddiffyn plant.
  • Ni fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried unrhyw geisiadau nad ydynt yn cynnwys nifer fawr o berfformiadau gyda nifer fawr o blant ar draws nifer sylweddol o ardaloedd awdurdodau lleol.

Felly, dylai sefydliadau wneud cais am gymeradwyaeth i'r awdurdod lleol lle mae'r perfformiad yn digwydd. Ni ddylai sefydliad wneud cais i Lywodraeth Cymru na'r Ysgrifennydd Gwladol oherwydd eu bod yn credu bod yr awdurdod lleol yn cymryd gormod o amser i brosesu cais. Yn sicr, ni ddylent wneud cais i Lywodraeth Cymru na'r Ysgrifennydd Gwladol oherwydd bod yr awdurdod lleol wedi gwrthod cais.

BOPA - sut i wneud cais

Yr ystyriaeth gyntaf yw penderfynu ai BOPA yw'r llwybr priodol o dan yr amgylchiadau penodol.

Rhoi BOPA

Gall yr awdurdod lleol roi BOPA ar gyfer un perfformiad neu ar gyfer cyfres o berfformiadau dros gyfnod penodol; fel arfer hyd at flwyddyn.

BOPA - adran 7

Mae'n bwysig fod swyddogion trwyddedu yn deall y gwahanol ddeddfau sy'n effeithio ar absenoldeb o'r ysgol i gymryd rhan mewn perfformiad, gweithgaredd neu chwaraeon am dal.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2021