Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi BOPA

Gall yr awdurdod lleol roi BOPA ar gyfer un perfformiad neu ar gyfer cyfres o berfformiadau dros gyfnod penodol; fel arfer hyd at flwyddyn.

Os rhoddir cymeradwyaeth am gyfnod o amser, dylai fod yn amod fod y sefydliad yn rhoi manylion pob perfformiad/ymarfer i'r awdurdod lleol gan gynnwys y dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliad, enwau'r hebryngwyr ynghyd a nifer y plant sy'n cymryd rhan, gan gynnwys rhaniad o ran rhywedd ac ystod oedran, o leiaf 21 diwrnod cyn y perfformiad cyntaf oni bai fod yr awdurdod lleol wedi cytuno ar gyfnod rhybudd byrrach.

Os yw'r awdurdod lleol yn fodlon a'r trefniadau arfaethedig, dylent roi cymeradwyaeth i berfformio mewn perthynas a'r perfformiad penodedig.

Fel y nodwyd eisoes, nid oes angen i blentyn fyw o fewn ffiniau'r awdurdod lleol sy'n rhoi'r BOPA. Os daw hyn i'w sylw, nid oes angen 'caniatad' yr awdurdod arall i gynnwys eu plant ar yr awdurdod lleol sy'n rhoi'r BOPA. Nid oes ots p'un a yw plentyn wedi perfformio ar 4 diwrnod neu fwy yn ystod y 6 mis diwethaf; gellir eu cynnwys mewn BOPA o hyd.

Enghraifft 1

Rhoddwyd 2 drwydded i Amy yn ystod y 3 mis diwethaf, ac mae hi wedi gweithio am 2 ddiwrnod ar ddrama deledu ac wedi ffilmio hysbyseb deledu am 1 diwrnod. Mae'r grwp theatr lleol y mae'n aelod ohono yn cynnal cynhyrchiad am 4 diwrnod ac maent wedi cael cymeradwyaeth corff o bersonau. Gall Amy berfformio o dan y BOPA.

Fodd bynnag, os yw plentyn wedi perfformio o dan BOPA, bydd nifer y diwrnodau yn cyfrif fel diwrnodau perfformio.

Enghraifft 2

Chwaraeodd Jake ran 'Oliver' yng nghynhyrchiad grwp lleol y mae'n aelod ohono. Rhoddwyd BOPA i'r grwp a pherfformiodd Jake am 3 diwrnod.

Cafwyd ymholiad gan sefydliad arall a oedd yn awyddus i ffilmio gyda Jake am 2 ddiwrnod a chan nad oedd yn cael ei dalu ac nad oedd yn colli'r ysgol (roeddent yn ffilmio ar y penwythnos) roeddent am ddefnyddio'r esemptiad i'r rheol 4 diwrnod. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid cyfrif y diwrnodau lle bu Jake yn perfformio o dan y BOPA ac ni ellir defnyddio esemptiad, ac mae'n rhaid i'r sefydliad wneud cais am drwydded.


Gall swyddogion trwyddedu gwestiynu sut y gallant ddefnyddio'r esemptiad i'r 'rheol 4 diwrnod' os na chant wybod am blant unigol sy'n perfformio o dan BOPA. Nid cyfridoldeb yr awdurdodau lleol yw plismona'r 'rheol 4 diwrnod' a dylai swyddogion trwyddedu gyfeirio at Dudalen 8 o'r canllaw 'Y rheol 4 diwrnod'. Mae paragraff 4 yn yr adran yn nodi:

Mae'n ofyniad cyfreithiol i geisio trwydded pan fydd angen un a bydd unrhyw unigolyn sy'n caniatau i blentyn neu'n achosi iddynt wneud unrhyw beth sy'n mynd yn groes i'r gofyniad trwydedu yn cyflawni trosedd a gallant wynebu dirwy, carchar neu'r ddau. Os yw cynhyrchydd yn dibynnu ar y rheol 4 diwrnod fel sail dros beidio a gwneud cais am drwydded, dylai fod ganddynt sail resymol dros gredu nad yw'r plentyn wedi perfformio ar fwy na 3 diwrnod yn y 6 mis blaenorol.

Yn amlwg, y cynhyrchydd sy'n gyfrifol am sicrhau eu bod yn gwneud ymholiadau rhesymol a nodir enghreifftiau o arferion gorau yn yr adran hon. Mae angen i swyddogion trwyddedu sicrhau bod eu ffurflen esemptiad yn eglur ac yn esbonio'n gwbl glir i'r cynhyrchydd pa ymholiadau y dylent eu gwneud a'r canlyniadau tebygol pe baent yn methu a gwneud hynny.

Penderfyniadau BOPA

Fel y nodwyd eisoes, penderfyniad yr awdurdod lleol yw p'un a ddylid rhoi BOPA ai pedio, a gallant ychwanegu unrhyw amodau at y gymeradwyaeth i sicrhau lles plant.

Gellir dirymu BOPA os yw'r sefydliad yn methu a bodloni'r amodau y cytunwyd arnynt ac os oes gan yr awdurdod lleol bryderon ynghylch diogelwch a lles y plant sy'n cymryd rhan yn y perfformiad.

Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu peidio a rhoi BOPA, yr arfer gorau yw ysgrifennu at y sefydliad i nodi'r rhesymau dros y penderfyniad i wrthod.

Close Dewis iaith