Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Adrodd am newid mewn amgylchiadau a all effeithio ar eich budd-daliadau

Os ydych yn hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor a/neu Fudd-dal Tai ac mae eich amgylchiadau'n newid, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

Gan ddibynnu ar yr hyn sydd wedi newid, efallai bydd eich budd-daliadau'n lleihau neu'n cael eu cynyddu.

Sut ydw i'n dweud wrthych am newid mewn amgylchiadau?

Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor

Y ffordd hawsaf i ddweud wrthym am newid yw cwblhau ein ffurflen ar-lein.

Report a change of circumstances using our online benefits form (Yn agor ffenestr newydd)

Drwy ysgrifennu i'r Is-adran Budd-daliadau, Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN neu drwy e-bostio budd-daliadau@abertawe.gov.uk.

Os nad ydych yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau o fewn mis i'r newid, gallech golli unrhyw gynnydd mewn budd-daliadau. Os oes newid a fydd yn lleihau eich budd-dal neu'n dod ag ef i ben, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym cyn i'r newid ddigwydd neu'n syth ar ôl y newid. Gallai unrhyw ostyngiadau i'ch Budd-dal Tai/Gostyngiad Treth y Cyngor arwain at ordaliad y gofynnir i chi ei dalu'n ôl.

Dylai landlordiaid sy'n derbyn taliadau uniongyrchol o Fudd-dal Tai am denant/deiliad contract hefyd roi gwybod am unrhyw newidiadau y maent yn cael gwybod amdanynt.

Pa newidiadau y dylwn i sôn wrthych amdanynt?

Dyma enghreifftiau o'r math o newidiadau mewn amgylchiadau y mae'n rhaid i bawb roi gwybod amdanynt ar unwaith i'r Is-adran Budd-daliadau:

Nodwch: * Cyfalaf - unrhyw gyfrif gyda banc neu sefydliad arall, cynilion, buddsoddiadau, eiddo neu dir

  • mae eich incwm neu eich cyfalaf chi, eich partner neu rywun arall yn eich cartref yn newid * 
  • os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch cartref yn gorffen derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.
  • os ydych chi'n derbyn Credyd Cynilion Pensiwn ac mae eich cyfalaf * yn cynyddu i dros £16,000
  • os bydd rhywun naill ai'n dechrau derbyn neu'n peidio â derbyn Lwfans Gofalwyr neu'r elfen Gofalwyr o Gredyd Cynhwysol am ofalu amdanoch
  • os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch cartref yn dechrau gweithio.
  • os yw swm eich taliadau gofal plant yn newid.
  • os yw nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref yn newid (gan gynnwys unrhyw un sy'n byw gyda chyd-denant/deiliad contract)
  • os yw eich cyfeiriad yn newid (i denantiaid preifat/deiliaid contract preifat, mae hyn yn cynnwys newid ystafell yn yr un eiddo).
  • os nad ydych yn denant y cyngor ac mae eich rhent yn newid neu os ydych yn herio eich tâl rhent gan ddefnyddio Pwyllgor Asesu Rhent.
  • mae eich landlord neu berchennog yr eiddo yn dod yn gyfrifol am unrhyw un o'ch plant
  • os yw unrhyw un o'ch plant yn gadael yr ysgol.
  • os rydych chi neu'ch partner yn mynd i'r carchar.
  • os rydych chi neu'ch partner yn penderfynu aros mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio'n barhaol.
  • os rydych chi'n gadael eich cyfeiriad am gyfnod dros dro e.e. os ydych yn mynd ar wyliau, yn mynd i'r ysbyty neu i gartref gofal preswyl.
  • os rydych yn absennol o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban), gall eich Budd-dal Tai ddod i ben o'r dyddiad rydych yn gadael Prydain Fawr os disgwylir i'ch absenoldeb bara dros 4 wythnos.
  • rydych chi'n dod yn fyfyriwr a/neu mae eich incwm myfyriwr yn newid (neu mae eich grant/ benthyciad/incwm yn newid)
  • rydych yn derbyn gofal cymdeithasol ac mae eich iechyd neu eich gofal chi neu eich partner yn newid Dylech roi gwybod am hyn hefyd i'r Is-adran Incwm a Chyllid Gofal Cymdeithasol.
  • mae diogelwch ychwanegol wedi'i osod ar eich eiddo dan gynllun noddfa ac mae'ch Budd-dal Tai yn amodol ar ddileu'r cymhorthdal ​​ystafell sbâr (treth ystafell wely).
  • rydych wedi cytuno â'ch landlord nad yw'ch cartref yn ffit i fod yn gartref neu fod anghydfod ynghylch y mater

Sylwer nad yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr. Os bydd unrhyw amgylchiadau nad ydynt wedi'u rhestru uchod yn newid, cysylltwch â'r Is-adran Budd-daliadau.

Oes angen i mi ddarparu prawf o fy newid mewn amgylchiadau?

Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf o newid mewn amgylchiadau, er enghraifft:

  • os yw'ch enillion wedi newid
  • os ydych yn hunangyflogedig
  • os yw'ch costau gofal plant wedi newid

Efallai na fyddwn yn gallu talu'ch budd-dal nes ein bod wedi gweld yr holl dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani.Os nad oes modd i chi ddarparu peth o'r dystiolaeth hon, cysylltwch â ni a gallwn siarad am ffyrdd eraill i ni gael y prawf. 

Send us electronic copies of documents as evidence for a change in circumstances (Yn agor ffenestr newydd)

Eich Preifatrwydd

Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl gyfraith. Esbonnir hyn yn fanylach ar ein tudalen 'Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol - Refeniw a Budd-daliadau'.

Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.