Refeniw a Budd-daliadau - sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
I weinyddu'r gwasanaethau amrywiol y mae'n eu rheoli, bydd Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau'r cyngor yn casglu data personol amdanoch chi a'ch teulu.
Gwybodaeth a gedwir amdanoch chi
Gall yr wybodaeth hon a gesglir gynnwys:
- manylion amdanoch chi, megis cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, rhif Yswiriant Gwladol, dyddiad geni, nifer ar yr aelwyd a manylion incwm.
- wybodaeth berthnasol arall y mae ei hangen i brosesu eich cais megis manylion cyswllt eich landlord neu faint o ofal rydych chi'n ei dderbyn.
- manylion ynghylch incwm unrhyw bobl nad ydynt yn ddibynyddion sy'n byw gyda chi lle'r ydych yn gwneud hawliad am Fudd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor. (Rhowch wybod i'r rheini nad ydynt yn ddibynyddion y bydd eu data'n cael eu brosesu gan y cyngor)
Sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym amdanoch?
Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch er mwyn:
- cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol megis casglu Treth y Cyngor ac ardrethi busnes annomestig
- asesu eich ceisiadau am Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor, prydau ysgol am ddim ac asesiadau ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol neu unrhyw drethi, gostyngiadau, gwasanaethau neu fudd-dal lleol arall yr ydych yn cyflwyno cais amdano
- caniatáu i'r cyngor gyfathrebu a darparu gwasanaethau sy'n briodol i'ch anghenion megis cyflwyno cais am Fathodyn Glas
- cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill a/neu ganfod troseddau gan gynnwys twyll.
- Cyflawni'n rhwymedigaethau ar ran Llywodraeth EF a Llywodraeth Cymru i brosesu unrhyw grantiau, lwfansau neu daliadau y mae gofyn i ni eu gweinyddu ar eu rhan.
Caiff gwybodaeth a dderbynnir gan Lywodraeth EF a/neu Lywodraeth Cymru ei defnyddio i gydymffurfio â'n goblygiadau cyfreithiol megis casglu Treth y Cyngor, ardrethi Annomestig, neu gynnal asesiadau ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol neu wasanaethau eraill, budd-daliadau neu ostyngiadau y gallwch wneud cais amdanynt.
Efallai y byddwn yn cymharu peth o'r wybodaeth rydych wedi'i darparu â ffynonellau eraill i sicrhau bod eich data'n gywir.
 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
I weinyddu unrhyw dreth, gostyngiad, grant, gwasanaeth neu fudd-dal lleol y mae'r cyngor yn gyfrifol amdano, rydym yn rhannu gwybodaeth dan ein rhwymedigaethau cyfreithiol a chyda sefydliadau partner, gan gynnwys:
- adrannau eraill y cyngor
- adrannau'r llywodraeth
- Cyllid a Thollau EM
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Archwilio Cymru
- cynghorau eraill lle caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith
- Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) / Adran dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net
Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn caniatáu i adrannau eraill o fewn y cyngor gael mynediad cyfyngedig at ein data a Chronfa Bensiwn y cyngor lle mae'n ofyniad statudol iddynt gynnal cyfeiriadau cywir a chyfoes ar gyfer eu cleientiaid.
Ar adegau, efallai y bydd sefydliadau cefnogaeth TG a gontractwyd yn cael gweld eich gwybodaeth wrth gyflwyno cefnogaeth TG. Bydd mynediad gan gefnogaeth TG ar gyfer trwsio materion technegol gyda meddalwedd yn unig.
Mae'n bosib y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio eto o bryd i'w gilydd i gefnogi ymgyrchoedd 'codi ymwybyddiaeth' ar gyfer Budd-daliadau/Credydau'r Llywodraeth neu fentrau eraill y gallech efallai elwa ohonynt.
Sut rydym yn prosesu'ch gwybodaeth?
Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych yn cael ei phrosesu fel arfer gan unigolyn, ond gall rhai penderfyniadau Budd-dal Tai a Gostyngiadau Treth y Cyngor fod yn rhai awtomataidd pan fydd data personol a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phesniynau yn cael ei fewnforio'n electronig i'n systemau cyfrifiadur. Cewch eich hysbysu'n ysgrifenedig o unrhyw newidiadau i'ch Budd-dal Tai neu Ostyngiadau Treth y Cyngor, a bydd yn cynnwys hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad.
Am ba hyd rydym yn cadw eich cofnodion?
Mae ein hamserlen gadw'n nodi pa mor hir rydym yn cadw gwybodaeth bersonol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.