Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth gwennol am ddim y Bws Siopa

Croeso i wasanaeth gwennol newydd y Bws Siopa - y ffordd berffaith o fynd yma ac acw yng nghanol y ddinas am ddim, bum niwrnod yr wythnos.

Bws mini â 15 o seddau yw ein gwasanaeth Bws Siopa yng nghanol y ddinas. Mae'n cysylltu'r orsaf drenau â'r orsaf fysus, gan alw heibio i Farchnad Abertawe ar y ffordd.

Shopper Hopper.

Mae'n golygu y gall pobl sy'n ymweld â chanol y ddinas deithio yn ôl i'r orsaf fysus neu'r orsaf drefnau am ddim cyn teithio ymhellach, a hynny'n haws nag yn y gorffennol. Bydd hefyd yn galluogi ymwelwyr i gael mynediad uniongyrchol i ganol y ddinas wrth ddod i Abertawe ar y bws neu'r trên. 

Llwybr

  • Yr orsaf drenau (y Stryd Fawr)
  • Marchnad Abertawe (Whitewalls)
  • Yr orsaf fysus (Wellington Street)
  • Marchnad Abertawe (Whitewalls)
  • Yr orsaf drenau (y Stryd Fawr)

Amserau

  • Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 4.30pm

Bydd y gwasanaeth cyntaf yn gadael yr orsaf drefnau am 9.00am. Bydd y gwasanaeth olaf yn gadael Marchnad Abertawe (Whitewalls) am 4.15pm, gan fynd yn uniongyrchol i'r orsaf drenau erbyn 4.30pm.

Bydd pob cylchdaith yn cymryd oddeutu 45 munud ac yn gweithredu'n barhaus drwy'r dydd. Felly, yr unig beth y bydd angen i deithwyr ei wneud yw mynd i'r safleoedd bws perthnasol ac aros tan i'r Bws Siopa gyrraedd.

Amserau casglu allweddol:

  • 9.00am o'r orsaf drenau (y Stryd Fawr)
  • 10.45am o'r orsaf fysus (Wellington Street)
  • 2.45pm o'r orsaf fysus (Wellington Street)
  • 4.15pm o Farchnad Abertawe (Whitewalls)

Cyfleusterau a mynediad

  • bydd yn addas i gadeiriau olwyn
  • mae ein gyrwyr wedi cael hyfforddiant llawn MiDAS (Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bysus Mini) er eich diogelwch
  • clustnodwyd lle ychwanegol ar gyfer trolïau siopa neu gyfarpar symudedd

Rhagor o wybodaeth

Bydd tîm cymorth gwasanaeth ar gael i ymdrin ag unrhyw ymholiadau o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 5.00pm:

Sylwer: mae'r gwasanaeth am ddim ar hyn o bryd, ond gall hynny newid. Byddwn hefyd yn adolygu a fydd angen mwy o fysus os bydd galw mawr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Rhagfyr 2025