Byddin yr Iachawdwriaeth - Treforys
Eglwys Gristnogol ac elusen yn Nhreforys sy'n rhoi cymorth banc bwyd i bobl sy'n byw yn ardaloedd codau post SA5 ac SA6.
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
Banc bwyd
- Bob yn ail fore Mercher rhwng 9.30am a 12.00pm ganol dydd (gallwch weld y rhestr o ddyddiau agor y tu allan i'r adeilad ac yn https://www.salvationarmy.org.uk/morriston)
Nid oes angen gwneud apwyntiad, galwch heibio a bydd rhywun yno i'ch helpu.
Bydd angen cerdyn adnabod sy'n cadarnhau eich côd post.
Rhoddion: rydym yn croesawu rhoddion o fwyd pan fydd y banc bwyd ar agor, neu cysylltwch â ni i wneud trefniadau
Cyngor ychwanegol, gwybodaeth a chyfeirio
- Rydym yn darparu gwasanaeth 'Employment Plus' sy'n helpu pobl i ddod o hyd i waith ac aros yn y gwaith hwnnw.
- Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor i bobl sy'n profi tlodi tanwydd mewn partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd, gan gynnwys gwneud ceisiadau am grantiau tlodi tanwydd.
Cyfleusterau'r lleoliad
- WiFi am ddim
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
Cyswllt
- 01792 798790 os ydych chi'n ffonio ar fore Mercher
- neu ffoniwch 01792 772707 ar unrhyw adeg arall
Digwyddiadau yn Byddin yr Iachawdwriaeth - Treforys on Dydd Gwener 3 Hydref
Dim rhagor ar gael
Dyddiad blaenorolDim enghreifftiau o hyn
Dyddiad nesafDim enghreifftiau o hyn