Banciau bwyd a chefnogaeth
Lleoliadau, amserau agor a gwybodaeth am sut i gael mynediad at fanciau bwyd yn Abertawe. Mae hefyd wybodaeth i bobl sydd am roi nwyddau i fanc bwyd.
Croesewir rhoddion - rhestrir manylion ynghylch sut i roi nwyddau yn yr wybodaeth am bob banc bwyd isod.
Mae banciau bwyd a phrosiectau cymorth bwyd a restrir ar y dudalen hon wedi'u cofrestru â Chyngor Abertawe ac maent naill ai wedi cael o leiaf 3 ar y Sgôr Hylendid Bwyd, neu maent yn aros i gael eu harchwilio.
Ewch i'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gael rhagor o wybodaeth am Sgôr Hylendid Bwyd.
Mae'r rhan fwyaf o fanciau bwyd yn defnyddio talebau a/neu system atgyfeirio, felly peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro rhag defnyddio'r help hwn pan fyddwch mewn angen. Bydd yr asiantaethau sy'n gallu'ch helpu i gael taleb neu atgyfeiriad hefyd yn gallu'ch helpu drwy ddarparu cefnogaeth ychwanegol, gan gynnwys cael gafael ar gyngor ar fudd-daliadau a dyledion. Gall unrhyw un wynebu argyfwng, felly peidiwch â theimlo cywilydd os ydych yn gofyn am help. Mae'r ap 'Hope in Swansea' yn ffordd ddefnyddiol o ddod o hyd i'r help sydd ar gael er mwyn cael gafael ar fwyd ar y diwrnod y mae ei angen arnoch.
Ni chaiff y sefydliadau a restrir, a'r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau hynny, eu rheoli na'u llywodraethu gan Gyngor Abertawe ac nid oes gan Gyngor Abertawe reolaeth dros natur, cynnwys neu argaeledd y safleoedd hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni'n golygu ein bod yn argymell neu'n cefnogi'r sefydliad hwnnw. Nid yw'r cyngor yn atebol am unrhyw weithred neu ddiffyg gweithred gan y sefydliadau a restrir.
Os hoffech restru'ch banc bwyd neu eich gwasanaeth cymorth bwyd ar y dudalen hon, e-bostiwch tackling.poverty@abertawe.gov.uk.