Toglo gwelededd dewislen symudol

Caffi palmant - amodau a thelerau'r memorandwm o gytundeb

Mae'r Memorandwm o Gytundeb yn amodol ar nifer o amodau a thelerau ac fe'ch cynghorir i'w darllen yn llawn oherwydd gall peidio â'u cadw arwain at ddiddymu eich cais.

1. Bydd unrhyw ganiatâd a roddir yn amodol ar y Trwyddedai/Ymgeisydd yn derbyn caniatâd ysgrifenedig gan Gyngor Abertawe. Gellir ceisio hwn trwy applying for a Memorandum of Agreement.

2. Rhaid i ddyluniadau byrddau, cadeiriau ac ymbarelau gael eu cymeradwyo gan y cyngor ac ni ddylai'r ymgeisydd / trwyddedai adael i fyrddau, cadeiriau nac ymbarelau gael eu gosod ar y briffordd cyn y dyddiad hwn.

3. Y trwyddedai'n unig fydd yn gyfrifol am unrhyw eitemau a roddir ar y briffordd, ac ni all y trwyddedai wneud unrhyw hawliad yn erbyn y cyngor na chodi unrhyw ffi os bydd unrhyw gadeiriau, byrddau neu ymbarelau'n mynd ar goll, yn cael eu dwyn neu'n cael eu difrodi mewn unrhyw ffordd, beth bynnag y bo'r achos.

4. Bydd y trwyddedai'n indemnio'r cyngor yn erbyn pob gweithred, achos, hawliad ac atebolrwydd, sut bynnag y maent yn deillio, y gellir eu gwneud ar unrhyw adeg neu a godir o ganlyniad i ddefnyddio'r cadeiriau, byrddau ac ymbarelau. At y diben hwn, rhaid i'r trwyddedai dalu am bolisi yswiriant a gymeradwyir gan y cyngor sy'n werth o leiaf £5 miliwn ar gyfer unrhyw hawliad unigol, a rhaid iddo allu dangos y gofynion cyfredol o ran taliadau premiwm ar gais i'r cyngor ynghyd â chadarnhad o adnewyddiad blynyddol y polisi.

5. Rhaid defnyddio'r ardal y rhoddwyd caniatâd amdani at ddibenion bwyta ac yfed lluniaeth yn unig.

6. Ni fydd yr ymgeisydd / y trwyddedai yn codi unrhyw dâl am ddefnyddio'r cadeiriau, y byrddau na'r ymbarelau.

7. Bydd y trwyddedai yn sicrhau y cedwir y byrddau a'r cadeiriau'n lân ac yn daclus ar bob adeg a bod unrhyw sbwriel, saim, etc. sydd ar y briffordd yn cael eu gwaredu'n gyson trwy gydol y dydd, a'r ymgeisydd/y trwyddedai ei hun fydd yn talu am hyn.  Ni ddylai gwastraff a sbwriel o sefydliad y trwyddedai gael ei daflu ym miniau sbwriel parhaol yr ardal gyfagos a ddarperir gan y cyngor.

8. Rhaid i'r ymgeisydd / y trwyddedai sicrhau y cedwir unrhyw finiau gwastraff o fewn yr ardal a ganiateir at y diben hwn fel y dangosir ar y cynllun atodedig.

9. Bydd y trwyddedai yn symud y byrddau, y cadeiriau, y rhwystrau etc. o'r briffordd y tu allan i oriau masnachu bob dydd ddim cynt na 7.30am nac yn hwy na 11.00pm ym mhob achos, ac yn syth os gofynnir iddo wneud hyn er mwyn caniatáu gwaith neu ddefnydd o'r briffordd gan y canlynol:

a) y cyngor, gwasanaethau'r Heddlu, Tân ac Ambiwlans ac unrhyw sefydliad statudol, neu weithredwr telegyfathrebu, neu;

b) gerbydau adeiladwyr, hersiau, cerbydau symud celfi, faniau dosbarthu a gweithredwyr glanhau.

10. Yn ychwanegol i ofynion cymal 9, bydd yr ymgeisydd / y trwyddedai yn symud y byrddau, y cadeiriau a'r ymbarelau pan ofynnir iddo wneud hyn gan Gyngor Abertawe heb rybudd gan swyddog awdurdodedig y cyngor sy'n gweithredu'n rhesymol, ac ni fydd yn ailosod y byrddau, y cadeiriau a'r ymbarelau nes ei fod yn derbyn caniatâd i wneud hynny.

11. Ni fydd yr ymgeisydd / y trwyddedai yn gadael i fyrddau, cadeiriau ac ymbarelau ymledu i'r pwynt lle maent yn rhwystro neu'n atal y briffordd.  Dylid cadw troedffordd ddymunol o 1.8 metr i gerddwyr sy'n mynd heibio, ac os nad yw'r lled dymunol yn bosib, y lled lleiaf posib fydd 1.5 metr.

12. Bydd yr ymgeisydd / y trwyddedai yn darparu cyfleusterau golchi a thoiledau i bawb sy'n defnyddio'r cyfleuster a'r byrddau, y cadeiriau a'r ymbarelau.

13. Bydd yr ymgeisydd / y trwyddedai yn sicrhau ar bob adeg nad yw'r ffordd y gweithredir y cyfleusterau'n achosi unrhyw niwsans neu annifyrrwch i berchnogion neu ddeiliad unrhyw eiddo cyfagos a phob person sy'n defnyddio'r briffordd.

14. Bydd unrhyw gais newydd yn destun cyfnod ymgynghori 28 niwrnod.  Gall yr ymgeisydd/y trwyddedai osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd yn syth ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan yr Adran Priffyrdd, ond gellir tynnu'r caniatâd hwn yn ôl os ceir gwrthwynebiadau dilys ac/neu unrhyw gwynion.

15. Os caiff caniatâd ei dynnu'n ôl yn ystod cyfnod y Memorandwm o Gytundeb, rhaid i chi symud yr holl gelfi stryd a osodwyd ar y briffordd yn syth, neu o fewn amser synhwyrol a roddir gan swyddog awdurdodedig o Gyngor Abertawe. 

16. Bydd yr ymgeisydd / y trwyddedai yn sicrhau, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod diodydd alcoholig a diodydd meddal yn cael eu gweini mewn gwydrau plastig yn unig, ond gellir gweini te, coffi ac unrhyw ddiodydd poeth eraill mewn mygiau neu gwpanau arferol.

17. Dylid gosod byrddau, cadeiriau ac ymbarelau mewn lleoedd lle nad ydynt yn rhwystro arwynebeddau gweadog a ddarperir ar gyfer y rheini ag anabledd gweledol neu nam ar y golwg.

18. Bydd yr ymgeisydd / y trwyddedai yn llofnodi copi o unrhyw gytundeb neu drwydded i ddangos ei fod wedi darllen a deall yr amodau a thelerau y mae angen iddynt gydymffurfio â nhw.

19. Ni chaniateir gwerthu alcohol yn yr ardal y mae'r drwydded hon yn perthyn iddi oni bai fod Trwydded Mangre'r sefydliad, a roddwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu, yn caniatáu gwerthiant alcohol.

20. Bydd y trwyddedai yn gyfrifol am bob pris, treth ac unrhyw dreuliau eraill y mae angen talu amdanynt.

21. Os yw'r cyngor o'r farn bod yr ymgeisydd / y trwyddedai wedi torri amodau'r drwydded a bod y cyngor yn barnu na ellir ei gywiro, gall y cyngor dynnu ei ganiatâd yn ôl ar gyfer yr ardal awyr agored ar unwaith.

22. Os yw'r cyngor o'r farn bod yr ymgeisydd / y trwyddedai wedi torri amodau'r caniatâd ond y gellir ei gywiro, bydd darpariaethau adran 115 K o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn berthnasol.  Darperir testun adran 115 K yn yr atodiad.

23. Nid yw'r drwydded hon yn rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw hysbysebu ar yr ardal gaeëdig neu'r tu hwnt iddi am fod angen cymeradwyaeth ar wahân ar gyfer hynny.  Os hoffech hysbysebu, cysylltwch â'r Adran Priffyrdd i drafod eich gofynion.

24. Nid yw Cynghor Abertawe yn bodloni unrhyw strwythrau ei hadeiladu dros dro neu yn tymharol o fewn yr ardal trwydded caffi palmant.