Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau priffyrdd a thrwyddedau

Gwnewch gais am drwyddedau priffordd a stryd, gan gynnwys sgipiau, hysbysfyrddau, adeiladau gordo a chaffis palmant.

Gallwch wneud cais am nifer o hawlenni a thrwyddedau naill ai drwy'r post neu ar-lein.

Mae'r ffurflenni hyn ar gael i'w lawrlwytho, i'w hargraffu a'u cyflwyno drwy'r post. Gweler y ffurflenni unigol ar gyfer manylion cyswllt:

  1. Deunydd adeiladu, cloddio, cabanau / cynwysyddion a sgipiau mawr symudol (PDF, 171 KB)
  2. Arweiniad a ffurflen gais trwydded gwaith stryd (PDF, 431 KB)
  3. Gorchymyn rheoleiddio traffig (PDF, 150 KB)
  4. Ffurflen gais goleuadau traffig cludadwy (PDF, 183 KB)

Mae'r ffurflenni hyn hefyd ar gael i'w cyflwyno a'u talu ar-lein.

Gwaith adeiladu neu addasiadau sy'n effeithio ar y briffordd

Os rydych eisiau adeiladu neu addasu'ch eiddo mewn modd a fydd yn peri i'r gwaith estyn allan dros y briffordd neu orgyffwrdd â hi, bydd yn rhaid i chi geisio caniatâd gennym.

Caniatâd i osod Fframiau A/byrddau hysbysebu/arwyddion ar y briffordd

Os ydych am osod fframiau A, byrddau hysbysebu neu arwyddion ar y briffordd, bydd angen hawlen arnoch gennym.

Caniatâd i osod sgaffaldiau / hysbysfyrddau / ffensys ar briffordd

Os ydych yn bwriadu gosod sgaffaldau, hysbysfyrddau neu ffensys ar unrhyw ran o briffordd gyhoeddus yn Abertawe, bydd angen trwydded arnoch gennym.

Ceisiadau am hawlen sgip

Mae'n rhaid gwneud cais am hawlen er mwyn gosod sgip ar y briffordd. Dylid gwneud hyn o leiaf 24 awr cyn eich bod yn bwriadu ei osod ar y briffordd.

Hawlen bargodi dros dro

Dylech gyflwyno cais am hawlen i ni os ydych am ddefnyddio craen, lifft siswrn, craen fasged neu rywbeth tebyg, ar neu dros briffordd gyhoeddus.

Trwydded caffi palmant

Mae Trwydded Caffi Palmant yn galluogi busnesau i ddarparu ardaloedd eistedd awyr agored dynodedig yn unig er mwyn i'w cwsmeriaid allu bwyta ac yfed.

Cyrbau isel

Cerrig cwrbyn is sy'n caniatáu i gerbydau gael mynediad i'w dreif a ffyrdd mynediad eraill i dai yw cyrbau isel neu groesiad cerbydau.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2024