Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cais am drwydded delwyr metel sgrap

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded safle neu drwydded casglwr.

Cyn i chi gwblhau'r ffurflen ar gyfer delwyr metel sgrap

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol i gwblhau'r ffurflen. Dylech wneud yn siŵr bod gennych yr holl eitemau canlynol cyn eich bod yn dechrau llenwi'r ffurflen. 

  1. Tystysgrif Cludwyr Gwastraff 'Haen Uchaf' ddilys er mwyn cludo metel sgrap.Gallwch wneud cais am gofrestriad haen uwch neu adnewyddu cofrestriad haen uwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r ffurflen gais ar-lein a bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes gennych chi un eisoes.Cost cofrestriad haen uwch newydd yw £154. Mae hwn yn dod i ben ar ôl tair blynedd. Cost adnewyddu cofrestriad haen uwch cyn y dyddiad dod i ben yw £105.

  2. Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol sydd wedi'i dyddio o fewn y tri mis diwethaf.Gallwch wneud cais am wiriad GDG sylfaenol ar wefan Gov.uk. Mae'r ffurflen gais ar-lein a bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes gennych un eisoes. Bydd angen i chi hefyd brofi'ch hunaniaeth fel rhan o'r cais ac efallai y bydd angen i chi lanlwytho ffurf adnabod. Cost gwiriad GDG sylfaenol yw £18.00.

  3. Dull talu i dalu eich ffi ar-lein.Gallwn dderbyn taliadau cardiau debyd a chredyd drwy'r ffurflen hon. Ni allwn dderbyn taliadau arian parod.

Close Dewis iaith