Delwyr metel sgrap
Dylai unrhyw gwmni sy'n talu am fetel sgrap fel rhan o'i fusnes fod wedi'i drwyddedu.
Mae Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 wedi cyfuno rheoliadau ar gyfer delwyr metel sgrap a gweithredwyr achub cerbydau modur.
Mae'n anghyfreithlon talu arian parod am fetel sgrap a gynigir i chi. Mae'n rhaid i unrhyw daliad fod trwy siec neu drosglwyddiad electronig (wedi'i awdurdodi gan gerdyn debyd neu gredyd).
Mae'r drwydded yn ddilys am 3 blynedd.
Trwydded safle
Os yw delio metel sgrap yn digwydd yn eich busnes, mae angen trwydded safle arnoch. Hefyd, mae angen enwi rheolwr safle ar gyfer pob safle. Mae'r drwydded hon yn caniatáu i'r trwyddedai gludo metel sgrap i'r safleoedd hynny ac ohonynt mewn unrhyw ardal awdurdod lleol.
Trwydded casglwr
Os ydych yn casglu metel sgrap, mae angen trwydded casglwr arnoch. Mae angen trwydded ar wahân arnoch ar gyfer pob ardal awdurdod lleol rydych yn casglu ohoni.Nid yw'r drwydded yn rhoi awdurdod i chi weithredu safle.
Caiff deliwr metel sgrap un math o drwydded yn unig mewn unrhyw ardal awdurdod lleol. Dylech benderfynu a ydych yn mynd i gael trwydded safle neu deithiol mewn unrhyw ardal.
Cadw cofnodion
Mae'n rhaid bod gan ddeliwr metel sgrap lyfr ym mhob safle sy'n rhoi manylion am yr holl fetel sgrap a gafwyd yn y safle penodol hwnnw a'r holl fetel sgrap sydd wedi'i brosesu neu ei anfon o'r safle penodol hwnnw. Yn y llyfr, dylech gofnodi'r canlynol wrth gael metel sgrap:
- disgrifiad a phwysau'r metel sgrap
- dyddiad ac amser cael y metel sgrap
- os ceir y metel sgrap gan rywun arall, ei enw llawn a'i gyfeiriad. Mae'n rhaid cadw copi o unrhyw ddogfen a ddefnyddir i ddilysu enw a chyfeiriad
- rhif cofrestru unrhyw gerbyd a gludodd y metel i'r safle
- copi o'r siec os yw'r deliwr yn talu am y metel trwy siec
- os yw'r deliwr yn talu trwy drosglwyddiad electronig, mae'n rhaid iddo gadw'r dderbynneb neu gofnod o fanylion y trosglwyddiad os nad yw'r dderbynneb ar gael.
Wrth brosesu neu anfon metel sgrap, dylech gofnodi:
- a yw yn yr un cyflwr â'r un pan gafwyd
- a yw rhywun arall yn cael gwared arno
- a yw'r metel yn cael ei anfon o safle
- disgrifiad a phwysau'r metel sgrap
- dyddiad ac amser ei waredu
- yn achos metel sgrap sy'n cael ei anfon ar ôl ei werthu neu ei gyfnewid, pris y peth arall y cafodd ei werthu neu ei gyfnewid amdano
- os yw rhywun arall yn cael gwared arno, ei enw llawn a'i gyfeiriad.
Sut mae gwneud cais
Cais am drwydded delwyr metel sgrap Cais am drwydded delwyr metel sgrap
Mae'n rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r cais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen.
Ffïoedd
Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.
Math o drwydded | Ffi |
---|---|
Trwydded safle metel sgrap | £496.00 |
Trwydded casglwr metel sgrap | £314.00 |
Caniatâd dealledig
Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â Safonau Masnach.
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch Safonau.Masnach@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodwyd rhoi trwydded iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio i'w Llys Ynadon lleol.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gofrestr (Yn agor ffenestr newydd) o'r holl ddelwyr metel sgrap trwyddedig yng Nghymru.