Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am Fathodyn Glas neu ei adnewyddu

Mae'n rhaid gwneud cais am Fathodynnau Glas a'u hadnewyddu trwy'r system ar-lein ar y wefan gov.uk.

Gwnewch gais ar-lein heddiw ar wefan gov.uk

Mae Bathodynnau Glas am ddim yng Nghymru.

Rydym yn gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r broses drostynt eu hunain lle y bo'n bosib, neu i gael cefnogaeth gan deulu, ffrindiau neu sefydliadau cefnogi. Gallwch gael cefnogaeth gan wasanaeth Cyngor ar Bopeth, y Groes Goch Brydeinig, Age UK, Ymddiriedolaeth Shaw neu cysylltwch â CGGA i gael manylion sefydliadau cefnogi eraill.

Mae'r gwasanaeth ar-lein ar gyfer pobl sy'n cyflwyno cais ar ran rhywun ac mae hefyd nodwedd 'cadw a dychwelyd', sy'n caniatáu i bobl aros i rywun eu helpu i gwblhau eu cais.

Lle nad yw ymgeiswyr yn gallu cael mynediad at systemau ar-lein, rydym yn darparu cyfrifiaduron i alluogi hyn yn y Ganolfan Ddinesig a hefyd yn ein Canolfannau Cymunedol a'n llyfrgelloedd. 

Lle nad yw ymgeiswyr yn gallu defnyddio'r system ar-lein oherwydd nam corfforol neu wybyddol, gallwn drefnu apwyntiad i gasglu a chyflwyno'r wybodaeth: ffoniwch 01792 637366 i esbonio'r sefyllfa a bydd apwyntiad yn cael ei drefnu yng Nghanolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN ar adeg sy'n gyfleus. Os oes posibilrwydd y byddwch yn cael anhawster wrth gyrraedd y Ganolfan Ddinesig, dylech grybwyll hyn pan fyddwch yn ffonio'r tîm Bathodyn Glas a byddwn yn egluro'r trefniadau sydd gennym i'ch helpu.

Cyn dechrau eich cais

Cyn dechrau ar eich cais, bydd angen y pethau canlynol arnoch:

  • llun digidol diweddar sy'n dangos eich pen a'ch ysgwyddau
  • eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych chi un)
  • prawf hunaniaeth (megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru)
  • prawf o'ch cyfeiriad (megis bil Treth y Cyngor neu lythyr oddi wrth y llywodraeth)
  • prawf o fudd-daliadau (os ydych yn derbyn unrhyw beth)
  • manylion eich Bathodyn Glas cyfredol (os ydych chi'n gwneud cais).

Beth os ydw i'n anghytuno â'r penderfyniad ynghylch fy nghais am Fathodyn Glas?

Nid oes unrhyw broses apelio statudol yn erbyn penderfyniad a wnaed gan awdurdod lleol mewn perthynas â chais am Fathodyn Glas.

Rydym yn dilyn arweiniad a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ond nid oes ganddynt y pŵer i ymyrryd wrth asesu achosion unigol. 

Os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad i beidio â rhoi Bathodyn Glas i chi ac mae gennych wybodaeth neu dystiolaeth nas cyflwynwyd gyda'ch cais gwreiddiol, dylech ei hanfon atom o fewn un mis calendr o'r dyddiad yr anfonwyd y llythyr penderfyniad atoch. Byddwn yn ystyried y penderfyniad eto, gan ystyried y dystiolaeth ychwanegol. 

Os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad a wnaed i beidio â rhoi Bathodyn Glas i chi, ond nid oes gennych unrhyw wybodaeth na thystiolaeth ychwanegol yr hoffech ei rhoi, byddwn yn ystyried y penderfyniad eto ond mae'n annhebygol y bydd yn newid.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Ebrill 2024