Y Storfa
Mae canolfan gwasanaethau cymunedol amlbwrpas newydd o'r enw Y Storfa yn cael ei datblygu yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen.


Bydd yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol, cyfleoedd ar gyfer hunanddatblygiad a thwf, cynhwysiant digidol, lles, undod a chryfder ar draws cymunedau amrywiol Abertawe.
Bydd Y Storfa yn hygyrch i bawb a bydd yn darparu ystod o wasanaethau mewn amgylchedd croesawgar lle gallwch gwrdd ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, grwpiau dysgu a chymorth.
Bydd yn darparu llety ystwyth i sefydliadau'r trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a chwmnïau'r sector preifat sy'n cymeradwyo ethos hwb cymunedol.
Bydd lle swyddfa hyblyg, cydweithredol yn cefnogi'r gymuned i ganfod a darparu atebion i wella ansawdd bywyd lleol. Mae'r gwasanaethau y cadarnhawyd y byddant yn meddiannu'r Storfa maes o law yn cynnwys prif lyfrgell gyhoeddus y ddinas, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, gwasanaeth refeniw a budd-daliadau'r cyngor, canolfan gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor, Gyrfa Cymru, Abertawe'n Gweithio Cymru a Chyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot. Bydd gwasanaethau eraill sy'n bwriadu symud yno'n cael eu cyhoeddi maes o law.
Disgwylir i'r Storfa agor yn 2025. Mae'r gwaith adeiladu yno'n cael ei arwain gan The Kier Group.
Newyddion diweddaraf
- Prosiect canol y ddinas yn creu cyfleoedd gwaith newydd - Ebrill 2025
- Y Storfa: Rhagor o gynnydd yn yr hwb cymunedol - Mawrth 2025
- Aelodau o grwpiau cymunedol yn creu celf cyhoeddus yng nghanol y ddinas - Mawrth 2025
- Cipolwg ar Y Storfa: cynnydd yn yr hwb cymunedol - Ionawr 2025
- Newydd ei gyhoeddi! Tenant arall ar gyfer hwb cymunedol y cyngor yng nghanol y ddinas - Tachwedd 2024
- Mannau dirfawr newydd yn agor wrth i waith fynd yn ei flaen yn hwb canol y ddinas - Mai 2024
- Gwaith yn symud yn ei flaen wrth i waith trawsnewid hen adeilad BHS ddwysáu - Hydref 2023
- Cyhoeddiad! Dau denant ar gyfer hwb cymunedol canol y ddinas, Y Storfa - Medi 2023
- Enw newydd adeilad yn cyfeirio at y dyfodol - gydag atgofion o'r gorffennol - Medi 2023
- Cwmni o Gymru'n ennill contract adfywio allweddol yn Abertawe - Chwefror 2023
- Iechyd da! Y gorffennol yn cwrdd â'r dyfodol ar safle allweddol yng nghanol y ddinas - Hydref 2022
- Cyfle i fusnesau elwa o gynllun mawr newydd ar gyfer canol y ddinas - Medi 2022
- Gwaith i drawsnewid hwb cymunedol canol y ddinas i ddechrau yn yr hydref - Awst 2022
- £5.5m o gymorth ariannol ar gyfer hwb cyhoeddus newydd canol dinas Abertawe - Gorffennaf 2022
- Cam allweddol ymlaen ar gyfer hwb gwasanaethau lleol yng nghanol y ddinas - Ionawr 2022
- Gwasanaethau cyhoeddus i symud i hwb cymunedol newydd yng nghanol y ddinas - Ionawr 2022