Gwneud cais am gopi o dystysgrif geni ar-lein a thalu amdani
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gopi o dystysgrif geni.
Bydd ceisiadau am dystysgrifau yn cael eu prosesu o fewn 15 niwrnod gwaith. Pris y dystysgrif yw £11.00 fesul dystysgrif. Gallwn ei ddanfon atoch trwy post ail ddosbarth. Rydym yn cynnig gwasanaeth blaenoriaeth os oes angen y dystysgrif arnoch yn gynt. Gyda'n gwasanaeth blaenoriaeth, rydym yn anelu at gael y dystysgrif yn barod ar yr un diwrnod cyhyd â'ch bod yn cyflwyno cais erbyn 12.00 ganol dydd a chyhyd ag y gallwch ddarparu gwybodaeth gywir am y person. Pris y tystysgrif fydd £35.00 fesul dystysgrif. Gallwn ei ddanfon atoch trwy post dosbarth cyntaf.
I gael copi o dystysgrif geni mae'n rhaid i chi ddweud wrthym
- enw'r person ar adeg yr enedigaeth
- dyddiad a lleoliad yr enedigaeth
- enw o leiaf un rhiant.