Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif marwolaeth a thalu amdani ar-lein
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gopi o dystysgrif marwolaeth.
Bydd ceisiadau am dystysgrifau yn cael eu prosesu o fewn 15 niwrnod gwaith. Pris y dystysgrif yw £11.00 fesul dystysgrif. Gallwn ei ddanfon atoch trwy post ail ddosbarth. Rydym yn cynnig gwasanaeth blaenoriaeth os oes angen y dystysgrif arnoch yn gynt. Gyda'n gwasanaeth blaenoriaeth, rydym yn anelu at gael y dystysgrif yn barod ar yr un diwrnod cyhyd â'ch bod yn cyflwyno cais erbyn 12.00 ganol dydd a chyhyd ag y gallwch ddarparu gwybodaeth gywir am y person. Pris y tystysgrif fydd £35.00 fesul dystysgrif. Gallwn ei ddanfon atoch trwy post dosbarth cyntaf.
I gael copi o dystysgrif marwolaeth mae'n rhaid i chi ddweud wrthym
- enw'r person sydd wedi marw
- dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- dyddiad geni neu oedran y person sydd wedi marw
- unrhyw wybodaeth arall e.e. cyfeiriad diwethaf/swydd/enw'r priod.